HD 209458 b

Oddi ar Wicipedia
HD 209458 b
Enghraifft o'r canlynolhot Jupiter Edit this on Wikidata
Màs0.73 ±0.04 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod5 Tachwedd 1999 Edit this on Wikidata
CytserPegasus Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.01 +0.011 -0.0074 Edit this on Wikidata
Paralacs (π)20.6745 ±0.053 Edit this on Wikidata
Radiws1.39 ±0.02 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae HD 209458 b (a elwir hefyd yn answyddogol Osiris) yn blaned allheulol sy'n cylchio'r seren HD 209458 rhyw 150 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yn y cytser Pegasws. 'Corrach melyn' ydy'r seren, yn ddigon tebyg i'n Haul ni (y dosbarth 'G' o sêr).

Mae radiws cylchdro Osiris yn 7 miliwn km (rhyw 0.047 Unedau Seryddol), dim ond un wythfed ran o radiws cylchdro Mercher. Fel canlyniad mae'n cymryd dim ond 3.5 o'n dyddiau ni i gylchio ei seren, ac amcangyfrir bod tymheredd y blaned yn cyrraedd 1,000 C. O ran ei maint mae hi'n 220 gwaith yn fwy na'r Ddaear, ac yn 35% yn fwy na Iau. Am y rhesymau hyn mae hi'n cael ei chategoreiddio fel cawr nwy.

Mae ei hatmosffer yn cynnwys hydrogen (sy'n ageru), ocsigen, carbon ac, o bosib, ager dŵr. Oherwydd ei hagosatrwydd i'r seren, mae hi'n ageru fel comed.