Gwendoline Trubshaw

Oddi ar Wicipedia
Gwendoline Trubshaw
Ganwyd20 Rhagfyr 1886 Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 1954 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethswyddog, gweithiwr cymdeithasol Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Roedd Gwendoline Joyce Trubshaw, DBE (1887 - 8 Tachwedd 1954) yn swyddog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gymerodd ddiddordeb arbennig mewn recriwtio ar gyfer yr Ail Ryfel Byd, ac mewn lles menywod. Roedd hi'n aelod etholedig o Gyngor Sir Gaerfyrddin a chyflawnodd nifer o rolau blaenllaw mewn ystod o sefydliadau addysg ac iechyd.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Roedd Trubshaw yn ferch i Ernest a Lucy Trubshaw, o Ael-y-bryn, Felin-foel, Llanelli, a bedyddiwyd hi ar 1 Ebrill 1887. Roedd hi'n byw yn Cae'r Delyn, Llanelli, ond bu farw yn Llundain ar 8 Tachwedd 1954.[1]

Roedd Trubshaw yn gyfrifol am recriwtio menywod ar gyfer gwasanaeth rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; cymerai ddiddordeb dwfn yn eu lles a gweithiodd yn agos gyda nhw yn y ffatrïoedd creu arfau. Oherwydd ei gwaith fel cadeirydd Pwyllgor Pensiynau Rhyfel De-orllewin Cymru ac ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Teuluoedd y Milwyr, y Morwyr a'r Awyrenwyr, fe gyflwynwyd iddi'r CBE ym 1920.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Llyfrgell genedlaethol Cymru : Dictionary of Welsh Biography". yba.llgc.org.uk. Cyrchwyd 22 Ebrill 2018.