Gweddi'r Arglwydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gweddi Gristnogol o'r Testament Newydd yn y Beibl ydy Gweddi'r Arglwydd, neu'r Pader, neu Ein Tad (ar ôl y geiriau agoriadol). Mae'n debyg y cyfieithwyd y fersiwn sy'n gyfarwydd heddiw i'r Gymraeg naill ai o'r Saesneg neu o'r Lladin tua'r 16eg ganrif.

Gweddi Ladin oedd hi ar y dechrau, a adwaenid fel Y Pader (Lladin: Paternoster, Cymraeg: Ein Tad). Daw o'r fersiwn o Efengyl Mathew yn y Beibl Fwlgat canoloesol.

Gweddi'r Arglwydd yn y Gymraeg[golygu]

Ceir y cyfieithiad Cymraeg cynharaf sydd ar glawr yn y testun Cymraeg Canol Pwyll y Pader (13eg ganrif efallai), a gedwir yn Llyfr yr Ancr (14eg ganrif). Er bod cyfieithiad Cymraeg yn bod mor gynnar â hynny, yn Lladin byddai pobl yn adrodd Gweddi'r Arglwydd yn yr Oesoedd Canol.

Y fersiwn Cymraeg Canol[golygu]

Ein Tad ni, yr hwn ysydd yn y nefoedd,
Cadarnhaer dy Enw di, Arglwydd.
Doed dy deyrnas di arnam ni.
Bid arnam dy [e]wyllys di megys y mae yn y nef
[ac felly] yn y ddaear.
Dyro di ein bara beunyddiawl.
Maddeu di, Arglwydd, ein pechodeu i ni a wnaetham i'th erbyn,
megys y maddeuwn ninneu i ereill, o'th drugaredd ditheu,
yr hwnn a wnaethant i'n herbyn ninneu.
Na ddwg ti ni ym mhrofedigaeth.
Rhyddhâ di ni, Arglwydd, y gan y drwg.[1]

Y weddi Gymraeg ddiweddar[golygu]

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw.
Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd.
Amen.

ynteu:

Ein Tad, yn y nefoedd,
sancteiddier dy Enw.
Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys,
ar y Ddaear, fel yn y nef.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein troseddau,
fel y maddeuwn rhai a droseddwyd yn ein herbyn.
A phaid a'n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag drwg.
Oherwydd eiddo ti yw'r deyrnas, y nerth a'r gogoniant, am fyth ac am fyth.
Amen.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), 'Pwyll y Pader', yn Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986). Diweddarwyd yr orgraff wreiddiol yn sylweddol.