Gwastadeddau Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map sy'n dangos maint y Gwastadeddau Mawr, sy'n ymestyn trwy ganolbarth yr Unol Daleithiau, rhan o Ganada a rhan fach o Mexico. Dynodir 100fed linell y meridian gorllewinol gan linell goch.

Y Gwastadeddau Mawr[1] yw'r ystod llydan o dir prairie a steppe sy'n gorwedd i'r dwyrain o Fynyddoedd y Rockies yn yr Unol Daleithiau a Canada. Mae'r rhanbarth yn cynnwys rhannau o daleithiau Colorado, Kansas, Montana, Nebraska, New Mexico, Gogledd Dakota, Oklahoma, De Dakota, Texas a Wyoming yn UDA, a thaleithiau Alberta, Manitoba a Saskatchewan yng Nghanada. Yn Nghanada arferir y term prairie i'w disgrifio, a chyfeirir at y rhan o'r Gwastadeddau sydd yn y wlad honno fel Taleithiau'r Prairie neu'r "Prairies".

Yn hanesyddol, roedd y Gwastadeddau Mawr yn gartref i sawl llwyth o frodorion Americanaidd, ac yn eu plith y Sioux, Blackfeet, Crow, Cheyenne, Arapaho, a'r Comanche. Yn y dwyrain ceid llwythau'n byw mewn pentrefi sefydlog, fel yr Arikara, Mandan, Pawnee a'r Wichita. Bu'n gartref i yrrau anferth o fyffalo yn ogystal. Pan ymledodd pobl gwyn i'r gorllewin troes y Gwastadeddau yn rhan o'r ardal "ar y ffin" lle roedd y Gorllewin Gwyllt yn dechrau. Ymladdwyd nifer o frwydrau yno rhwng y brodorion a byddin yr Unol Daleithiau. Heddiw mae'r byffalo wedi mynd, y rhan fwyaf o'r brodorion yn byw ar reservations, a'r tir yn cael ei gyfrif ymhlith "basgedi grawn" y byd.

Rhaniadau daearyddol[golygu]

Golygfa ar y Gwastadeddau Mawr ger Kearney, Nebraska

Mae'r Gwastadeddau Mawr yn ffurfio'r rhan orllewinol o'r Gwastadeddau Mewnol (Interior Plains) Gogledd Americanaidd, sy'n ymestyn i'r dwyrain hyd at Llwyfandir Appalachia. Gellir rhannu Gwastaddeau Mawr yr Unol Daleithiau yn ddeg rhan:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 116.