Arapaho

Oddi ar Wicipedia
Arapaho
Enghraifft o'r canlynolllwyth Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthOklahoma Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gweler hefyd Arapaho (gwahaniaethu).

Mae'r Arapaho (Ffrangeg: Gens de Vache) yn llwyth o bobl brodorol Americanaidd sy'n byw, yn hanesyddol, ar Wastadeddau Mawr Colorado a Wyoming. Roeddent yn gynghreiriad agos i'r Cheyenne ac yn arfer cynghreirio â'r Sioux yn ogystal.

Scabby Bull, Arapaho

Mae'r iaith Arapaho yn iaith Algonquiaidd sy'n perthyn yn agos i iaith y Gros Ventre, pobl sy'n perthyn yn agos i'r Arapaho. Blackfoot a Cheyenne yw ieithoedd Algonquiaidd eraill y Gwastadeddau, ond maent yn wahanol iawn i Arapaho. Erbyn y 1850au, ymranasai bandiau'r Arapaho yn ddau lwyth: Arapaho'r Gogledd ac Arapaho'r De. Mae Cenedl Arapaho'r Gogledd wedi byw ers 1878, gyda'r Shoshone dwyreiniol, ar Wind River Reservation, y trydydd fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Mae Llwyth Arapaho'r De yn byw gyda Cheyenne y De yn Oklahoma. Dim ond tua 5,000 o Arapaho pur a geir heddiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]