Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon
Enghraifft o'r canlynolheddlu Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Tachwedd 2001 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCwnstabliaeth Frenhinol Ulster Edit this on Wikidata
Prif weithredwrGeorge Hamilton Edit this on Wikidata
RhagflaenyddCwnstabliaeth Frenhinol Ulster Edit this on Wikidata
PencadlysBelffast Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.psni.police.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, enw swyddogol Police Service of Northern Ireland (Talfyriad: PSNI; Gwyddeleg:Seirbhís Póilíneachta Thuaisceart Éireann;[1]Sgoteg Wlster: Polis Service or Norlin Airlan) yw'r heddlu sy'n gwasanaethu Gogledd Iwerddon. Mae’n olynydd i Gwnstabliaeth Frenhinol Ulster (yr RUC) ar ôl iddi gael ei diwygio a’i hailenwi yn 2001 ar argymhelliad Adroddiad Patten.[2][3][4][5]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Er bod mwyafrif swyddogion PSNI yn Brotestaniaid Ulster (sy'n dueddol o fod yn Unoliaethwyr ac am aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig), nid yw hyn mor amlwg ag yr oedd yn yr RUC oherwydd polisïau gweithredu cadarnhaol.

Roedd yr RUC yn heddlu arfog a chwaraeodd ran allweddol wrth blismona’r gwrthdaro treisgar ('yr Helyntion') o 60au hyd at 90au'r ganrif ddiwethaf. Fel rhan o Gytundeb Gwener y Groglith, cafwyd cytundeb i gyflwyno gwasanaeth heddlu newydd, yn seiliedig i ddechrau ar gorfflu swyddogion yr RUC.[6][7] Fel rhan o’r diwygio, crëwyd Comisiwn Heddlu Annibynnol ar gyfer Gogledd Iwerddon (Comisiwn Patten) a disodlwyd yr RUC gan y PSNI ar 4 Tachwedd 2001.[8][9] Yn Neddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) Deddf 2000 enwyd y gwasanaeth heddlu newydd yn Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (gan ymgorffori Cwnstabliaeth Frenhinol Ulster) a'i fyrhau i 'Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon' yn aml.[7][10]

Mae pob plaid wleidyddol fawr yng Ngogledd Iwerddon bellach yn cefnogi'r PSNI. Ar y dechrau, gwrthododd Sinn Féin, a oedd yn cynrychioli tua chwarter pleidleiswyr Gogledd Iwerddon ar y pryd, gefnogi'r PSNI nes bod argymhellion Comisiwn Patten wedi'u gweithredu'n llawn. Fodd bynnag, fel rhan o Gytundeb St Andrews, cyhoeddodd Sinn Féin ei fod yn derbyn y PSNI yn llawn yn Ionawr 2007.[11]

Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DU[golygu | golygu cod]

O’i gymharu â’r 44 heddlu tiriogaethol arall yn y Deyrnas Unedig, y PSNI yw’r trydydd mwyaf o ran nifer y swyddogion (ar ôl y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan a Heddlu’r Alban) a’r ail fwyaf o ran yr ardal ddaearyddol mae hi'n gyfrifol amdani, ar ôl Heddlu’r Alban. Mae'r PSNI tua hanner maint y Garda Síochána, Gweriniaeth Iwerddon, o ran niferoedd swyddogion.

Rheolaeth[golygu | golygu cod]

Mae SPIN yn cael ei oruchwylio gan bwyllgor materion cartref senedd Gogledd Iwerddon.

Mae yna hefyd Ombwdsmon Heddlu yng Ngogledd Iwerddon sy'n delio â chwynion posibl am y modd y cynhelir ymchwiliadau SPIN. Nuala O'Loan sy'n dal y swydd ar hyn o bryd.

Mae’r Comisiynydd Goruchwylio yn sicrhau bod argymhellion Adroddiad Patten yn cael eu gweithredu mewn ffordd ddealladwy a dibynadwy.

Recriwtio[golygu | golygu cod]

Heddwas yn Donegal Square, Belffast, Mai 2010. Noder y dryll na cheir gan heddluoedd eraill y Deyrnas Unedig

Ar hyn o bryd, mae'r PSIN yn gweithredu polisi o wahaniaethu cadarnhaol gyda'r nod o sicrhau bod 50% o'i haelodau yn perthyn i gymuned Gatholig Gogledd Iwerddon, gyda'r nod o wrthdroi'r sefyllfa o anghydbwysedd a ddioddefwyd gan yr RUC, yn ôl argymhellion y Adroddiad Patten. Cynlluniwyd enw a symbolau'r sefydliad i atal y naill neu'r llall o'r ddwy brif gymuned rhag teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn. Yn 2006, roedd 20% o aelodau SPIN eisoes yn Gatholigion, gwelliant o gymharu ag 8.3% yn yr hen RUC.[12]

Polisïau[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2006, cadarnhawyd bod uwch swyddog y Gwasanaeth, Judith Gillespie, wedi cymeradwyo polisi lle defnyddir plant fel ysbiwyr gan gynnwys trosglwyddo gwybodaeth am eu teuluoedd eu hunain (mewn amgylchiadau eithriadol), ond nid am eu rhieni.

Cyfeiriadau a llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Weitzer, Ronald. 1995. Policing Under Fire: Ethnic Conflict and Police-Community Relations in Northern Ireland (Albany, NY: State University of New York Press).

Weitzer, Ronald. 1996. “Police Reform in Northern Ireland,” Police Studies, vol. 19, rhif 2. tt.27-43.

Weitzer, Ronald. 1992. “Northern Ireland's Police Liaison Committees,” Policing and Society, vol.2, rhif 3, tt.233-243.

Arfbeisiau rhengoedd y gwasanaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Faisnéis as Gaeilge faoi Sheirbhís Póilíneachta Thuaisceart Éireann" (PDF). Police Service of Northern Ireland (yn Irish). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 Mawrth 2009. Cyrchwyd 2 Mawrth 2009.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Russell, Deacon (2012). Devolution in the United Kingdom. Edinburgh University Press. t. 218. ISBN 978-0748669738.
  3. "PSNI rehiring must be transparent" (yn Saesneg). 3 Hydref 2012. Cyrchwyd 25 Ebrill 2019.
  4. "Management of An Garda Síochána". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2019.
  5. Gillespie, Gordon (2009). The A to the Z of the Northern Ireland Conflict. Scarecrow Press. t. 226. ISBN 978-0810870451.
  6. "A New Beginning : Policing in Northern Ireland" (PDF). Cain.ulst.ac.uk. Cyrchwyd 1 Awst 2015.
  7. 7.0 7.1 "Police (Northern Ireland) Act 2000". Statutelaw.gov.uk. Cyrchwyd 1 Awst 2015.
  8. McGoldrick, Stacey and McArdle, Andrea (2006). Uniform Behavior: Police Localism and National Politics. Palgrave Macmillan, tud. 116. ISBN 1403983313
  9. Morrison, John F. (2013). Origins and Rise of Dissident Irish Republicanism: The Role and Impact of Organizational Splits. A&C Black, tud. 189. ISBN 1623566770
  10. s.1, Police (Northern Ireland) Act 2000
  11. "SF delegates vote to support policing". RTÉ News. rte.ie. 28 Ionawr 2007. Cyrchwyd 5 Mehefin 2007. The Sinn Féin decision in favour of supporting policing in Northern Ireland for the first time ever has been welcomed in Dublin, London and Belfast.
  12. SF delegates vote to support policingRTE News erthygl papur newydd, 28 Ionawr 2007
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.