Guinea Newydd
Oddi ar Wicipedia
Ynys i'r gogledd o Awstralia yw Guinea Newydd, hefyd Gini Newydd (Indoneseg: Pulau Irian). Hi yw ynys ail-fwyaf y byd, gydag arwynebedd o 786,000 km2. Mae poblogaeth yr ynys tua 6,900,000.
Rhennir yr ynys rhwng gwlad Papua Guinea Newydd yn y dwyrain ac Indonesia yn y gorllewin, gyda'r rhan Indonesaidd wedi ei rhannu yn ddwy dalaith, Papua a Gorllewin Papua.
