Gruffudd Yonge

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd Yonge
Ganwydc. 1370 Edit this on Wikidata
Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1435 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata

Roedd Gruffudd Yonge neu Gruffydd Young (c. 1370 - c. 1435) yn glerigwr Cymreig oedd yn un o bleidwyr amlycaf Owain Glyn Dŵr ac a fu'n Esgob Bangor yn 1407.

Mae'n debyg fod Gruffudd yn fab gordderch i Morgan Yonge, fu'n Siryf Sir y Fflint. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Rhydychen. Enillodd ffafr Anne o Bohemia, gwraig Rhisiart II, brenin Lloegr, a rhoddwyd nifer o fywiolaethau yn esgobaethau Bangor a Thyddewi iddo. Daeth yn Archddiacon Meirionnydd cyn ymuno â gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn 1403 a chael ei benodi'n ganghellor iddo. Cofnodir iddo ymweld a Paris yn 1404 yng ngwmni John Trefor, Esgob Llanelwy, i drefnu cytundeb rhwng Owain a Siarl VI, brenin Ffrainc. Credir mai ef oedd yn gyfrifol am Bolisi Pennal a'r penderfyniad i gydnabod y pab yn Avignon yn hytrach na'r pab yn Rhufain.

Gwnaed ef yn Esgob Bangor ym mis Chwefror, 1407, yna yn Esgob Tyddewi yn mis Ebrill yr un flwyddyn. Wedi i wrthryfel Glyn Dŵr ddod i ben, derbyniodd Yonge awdurdod Pab Rhufain unwaith eto, ac yn 1418 cafodd ei benodi yn Esgob Ross yn yr Alban. Ni fedrodd gymeryd meddiant ae ei esgobaeth, ac yn 1423 penodwyd ef yn esgob Hippo (Hippo Regius) in partibus infidelium.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R. R. Davies (1995) The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Oxford University Press)