Graham Jenkins
Graham Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 25 Hydref 1927 Castell-nedd Port Talbot |
Bu farw | 14 Rhagfyr 2015 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Brawd yr actor Richard Burton oedd Graham Jenkins (25 Hydref 1927 – 14 Rhagfyr 2015).[1]
Roedd yn blentyn ifancaf i 13 o blant anwyd i Edith Jenkins. Bu farw ei fam yn fuan ar ôl ei enedigaeth, a fe'i magwyd gan un o'i frodyr.
Bu'n gweithio fel arolygydd marchnad ym Mhort Talbot, rheolwr yr Afan Lido ac yn fwy diweddar fel trefnydd chwaraeon i'r BBC yn Llundain. Bu'n byw hefyd yn Ynys y Garn cyn symud nôl i Dde Cymru.[2]
Roedd yn briod â Hilary a roedd ganddo ddau fab, Richard ac Alun. Wedi dioddef o glefyd Alzheimer ers blynyddoedd bu farw yn ei gwsg yn 88 mlwydd oed.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Richard Burton, My Brother (1988)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Colofn Marwolaethau, WalesOnline
- ↑ Actor Richard Burton's brother Graham Jenkins dies; Adalwyd 2015-12-15