Gorsaf reilffordd King's Cross Llundain
Oddi ar Wicipedia
| King's Cross |
||
|---|---|---|
| Lleoliad | ||
| Lleoliad | Kings Cross | |
| Awdurdod lleol | Camden | |
| Gweithrediadau | ||
| Côd gorsaf | KGX | |
| Rheolir gan | Network Rail | |
| Nifer o blatfformau | 12 | |
|
gan National Rail Enquiries |
||
| Defnydd teithwyr blynyddol | ||
| 2009-10 | ||
| 2010-11 | ||
Mae gorsaf reilffordd King's Cross Llundain (neu yn syml King's Cross) yn orsaf reilffordd pwysig[1] sy'n gwasanaethu gogledd Llundain, prif ddinas Lloegr.
Mae King's Cross yn derfynfa ddeheuol y Brif Linell Arfordir Dwyrain. Leeds, Newcastle a Chaeredin yw rhai o'i chyrchfannau pellter hir pwysicaf. Mae'r orsaf hefyd yn cynnal gwasanaethau i Swydd Bedford, Swydd Hertford a Swydd Caergrawnt, a gwasanaethau rhanbarthol cyflym i Peterborough, Caergrawnt a King's Lynn.
Hanes [golygu]
Adeiladwyd King's Cross yn wreiddiol fel canolbwynt y Great Northern Railway yn Llundain a therfynfa'r brif linell Arfordir y Dwyrain. Cymerodd ei enw o'r ardal King's Cross yn Llundain, a enwyd ar ôl cofeb i'r Brenin Siôr IV a ddymchwelwyd yn 1845.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Stations Run by Network Rail". Network Rail. http://www.networkrail.co.uk/aspx/765.aspx. Adalwyd 23 Awst 2009.