Gorsaf reilffordd Brampton

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Brampton
Mathgorsaf reilffordd, gorsaf drwodd, gorsaf ar lefel y ddaear Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Caerliwelydd
Agoriad swyddogol1836 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBrampton Edit this on Wikidata
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.9322°N 2.7039°W Edit this on Wikidata
Cod OSNY550599 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafBMP Edit this on Wikidata
Rheolir ganArriva Rail North, Northern Trains Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethNetwork Rail Edit this on Wikidata

Mae Gorsaf reilffordd Brampton yn orsaf ar linell Dyffryn Tyne sydd yn cysylltu Newcastle, Hexham a Chaerliwelydd. Mae’r orsaf yn gwasanaethu’r dref Brampton.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Newcastle a Chaerliwelydd ym 1829[1]. Agorwyd yr orsaf ym mis Gorffennaf 1836. yn wreiddiol, roedd cangen rhwng yr orsaf a’r dref, lle oedd Gorsaf Reilffordd Brampton Town. Defnyddiwyd ceffylau ar y gangen. Daeth y rheilffordd, a’r gangen, yn rhan o Reilffordd y Gogledd Ddwyrain ym 1912. Caewyd y gangen ym mis hydref 1923.[2]

Roedd cangen arall i gario glo o glofeydd yr Arglwydd Caerliwelydd yn ymyl Tindale, seiliedig ar dramffordd gynharach gyda chledrau pren. Caewyd y rheilffordd hon ym mis Mawrth 1953.[3]

Gorsaf-meistr cyntaf yr orsaf oedd Thomas Edmondson, dyfeisydd y tocyn cardfwrdd Edmondson a pheiriannau cysylltiedig â’r tocynnau.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. James, Leslie (Tachwedd 1983). A Chronology of the Construction of Britain's Railways 1778-1855. Shepperton: Ian Allan. t. 22. ISBN 0-7110-1277-6. BE/1183.
  2. Gwefan cumbria-railways.co.uk
  3. Gwefan cumbria-railways.co.uk
  4. Gwefan manlocosoc.co.uk