Gorsaf reilffordd Bow Street

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Bow Street
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1876 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBow Street Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.44°N 4.03°W Edit this on Wikidata
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafBOW Edit this on Wikidata
Map

Mae Bow Street yn orsaf rheilffordd ar Rheilffordd y Cambrian sy'n gwasanaethu pentref Bow Street. Adeiladwyd yr orsaf newydd i'r de o'r hen safle ac fe agorodd ar 14 Chwefror 2021.

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorodd yr orsaf wreiddiol ar 14 Mehefin 1864 yn rhan o linell Aberystwith and Welsh Coast Railway rhwng Borth ac Aberystwyth. Caewyd yr orsaf ar 14 Mehefin 1965 fel rhan o doriadau anferth Beeching i'r system reilffyrdd ar draws gwledydd Prydain.

Ail-agor[golygu | golygu cod]

Yn dilyn pwysau lleol, yn 2015, comisiynodd Llywodraeth Cymru astudiaeth i ail-agor yr orsaf yn Bow Street[1] Mae Bow Street yn bendref gymudo 3 milltir i'r gogledd o Aberystwyth ac wedi tyfu'n aruthrol ers y 1960au gan gynnig tai rhatach na chanol tref Aberystwyth.

Bydd disgwyl i'r orsaf newydd leihau nifer y ceir sy'n teithio'n ddyddiol i ganol tref Aberystwyth ar gyfer gwaith yn y brifysgol, swyddfeydd y Llywodraeth a Chyngor Sir Ceredigion ynghŷd â busnesau eraill y dref. Gan fod yr osraf arfaethedig i fod ar hyd llwybr rheilffordd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio (llinell Aberystwyth i'r Amwythig) nid oes angen adeiladu cledrau newydd.

Gwnaethpwys cais gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU am grant o £4 miliwn tuag at ail-agor yr orsaf ar safle ychydig i'r de o'r orsaf wreiddiol sydd, ar hyn o'r bryd yn safle masnachwr deunydd adeiladu.[2][3] Mae'r cynlluniau newydd yn cynnwys adnoddau ar gyfer maes parcio ar gyfer 110 o gerbydau, storfa beiciau a chyfnewidfa bysiau a choetsis.[4]

Cyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2017 bod yr orsaf wedi derbyn sêl bendith Adran Drafnidaeth San Steffan.[5] Bydd yr orsaf newydd yn costio oddeutu £6.8 miliwn a roedd disgwyl iddo agor Mawrth 2020.[6] Arafwyd y gwaith gan bandemig COVID-19 a felly agorwyd yr orsaf yn swyddogol ar 14 Chwefror 2021, gyda'r trên cyntaf yn cyrraedd ar fore Sul, 9.12am.[7]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gorsaf drenau newydd i Geredigion?". BBC News. 10 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
  2. "Funding hopes for Bow Street Aberystwyth railway station". BBC News. Cyrchwyd 8 December 2016.
  3. "New railway station near Aberystwyth 'would boost economy'". BBC News. 26 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2016.
  4. Spencer, Caleb. "Plans for new Bow Street railway station unveiled". Aberystwyth Today. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2016.
  5. "New station boost for passengers thanks to £16 million government investment". Department for Transport. UK Government. 28 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
  6. "£4m ar gyfer gorsaf drenau newydd yn Bow Street". BBC News. 28 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
  7. First train stops at newly opened Bow Street station (en) , Cambrian News, 14 Chwefror 2021.