Gordian I

Oddi ar Wicipedia
Gordian I
Ganwyd159 Edit this on Wikidata
Phrygia Edit this on Wikidata
Bu farw238 Edit this on Wikidata
Carthag Rufeinig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, quaestor, aedile, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadMaecius Marullus Edit this on Wikidata
MamUlpia Gordiana Edit this on Wikidata
PriodFabia Orestilla Edit this on Wikidata
PlantGordian II, Maecia Faustina Edit this on Wikidata

Marcus Antonius Gordianus Sempronianus Romanus Africanus (15912 Ebrill 238) oedd ymerawdwr Rhufain am ran o'r flwyddyn 238.

Ychydig a wyddir am ei fywyd personol, ond credir bod ei deulu'n hannu o Frigia (Anatolia). Roedd o deulu ecwestraidd cyfoethog, a llwyddodd i godi ei safle ddigon i ddod yn aelod o'r Senedd. Roedd ganddo ddau blentyn, Marcus Antonius Gordianus (Gordian II) a Maecia Faustina a ddaeth yn fam Gordian III.

Astudiodd rethreg a llenyddiaeth yn ei ieuenctid cyn ymuno a'r fyddin a dod yn bennaeth Lleng IV Escita yn Syria. Yn 216 penodwyd ef yn rhaglaw Britannia, yna'n gonswl yn ystod teyrnasiad Heliogabalus. Ysgrifennodd gerdd epig dan y teitl Antoninias i anrhydeddu'r ymerawdwr Caracalla.

Yn ystod teyrnasiad Alexander Severus, penodwyd Gordian (oedd eisoes yn 80 oed) yn broconswl Affrica. Tra'r oedd yn y swydd hon, lladdwyd Alexander Severis gan Maximinus Thrax, a gyhoeddwyd yn ymerawdwr. Nid oedd Maximinus yn ymerawdwr poblogaidd, a bu gwrthryfel yn Affrica yn 238, a gychwynodd yn ninas El Jem, cartref Gordian ar y pryd. Cyhoeddwyd Gordian yn ymerawdwr gyda'r teitl Africanus ar 22 Mawrth y flwyddyn honno, gan gymeryd ei fab yn gyd-ymerawdwr fel Gordian II. Cararnhaoedd y Senedd yn Rhufain ef fel ymerawdwr.

Fodd bynnag, roedd Capelianus, rhaglaw Numidia, yn parhau'n ffyddlon i Maximinus, ac ymosododd ar Affrica. Gorchfygwyd Gordian, a lladdwyd ei fab Gordian II yn y frwydr. Lladdodd Gordian ei hun yn fuan wedyn trwy grogi ei hun â'i wregys, wedi teyrnasiad o ddim ond 36 díwrnod.

Delwedd Gordian I ar sestertius
Rhagflaenydd:
Maximinus Thrax
Ymerawdwr Rhufain
238 gyda Gordian II
Olynydd:
Pupienus
a Balbinus