Gogledd Catalonia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Departement Pyrénées-Orientales a Chymuned Ymreolaethol Catalonia

Gogledd Catalonia (Catalaneg: Catalunya Nord) yw'r term a ddefnyddir yng Nghatalonia am y tiriogaethau yn awr yn departement Pyrénées-Orientales yn Ffrainc lle siaredir Catalaneg. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o Pyrénées-Orientales, heblaw am ddarn yn y gogledd. Gelwir yr ardal yn Roussillon yn Ffrangeg fel rheol.

Trosglwyddwyd y diriogaeth yma o Sbaen i Ffrainc gan Gytundeb y Pyreneau yn 1659. Y ddinas fwyaf yw Perpignan (Catalaneg: Perpinyà), lle ceir traean o boblogaeth yr ardal. Amcangyfrifir fod tua chwarter y boblogaeth yn siarad Catalaneg, gyda chanran uwch yn ei deall. Yn Rhagfyr 2007, derbyniodd llywodraeth Pyrénées-Orientales yr iaith Gatalaneg fel un o ieithoedd swyddogol y departement, gyda Ffrangeg ac Occitaneg.