Glynwr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hylif yw glynwr neu gyflynydd a ychwanegir i sylwedd sych i roi iddo ansawdd cyson.[1] Er enghraifft, yn y Byd Clasurol defnyddiwyd wyau, cwyr, mêl, a bitwmen i lynu gronynnau pigmentau wrth wneud paent.[2] Defnyddiwyd wyau hyd yr 16eg ganrif, a gelwir yn dempera wy.[3] Ers hynny defnyddir olew fel prif lynwr paent.[4] Yng ngherfluniaeth fodern defnyddir glynwyr organig, sef glud a ddaw o anifail neu gwm a ddaw o blanhigyn.[5] Yn y byd adeiladu, defnyddir sment fel glynwr wrth wneud concrit a morter.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Arthur Williams (2005). The sculpture reference illustrated: contemporary techniques, terms, tools, materials, and sculpture. Sculpture Books, tud. 40
  2. Janet Burnett Grossman (2003). Looking at Greek and Roman sculpture in stone: a guide to terms, styles, and techniques. Getty Publications, tud. 18. URL
  3. (1995) Collector's Guide. WingSpread, tud. 109. URL
  4. Tim Bruckner, Zach Oat, and Ruben Procopio (2010). Pop Sculpture: How to Create Action Figures and Collectible Statues. Random House Digital, tud. 37. URL
  5. Oppi Untracht (1982). Jewelry concepts and technology. Random House Digital, tud. 351. URL