Gliese 581 c

Oddi ar Wicipedia
Gliese 581 c
Enghraifft o'r canlynolplaned allheulol Edit this on Wikidata
Màs0.017783 +0.0012 -0.00075 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod4 Ebrill 2007 Edit this on Wikidata
CytserLibra Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.087 +0.15 -0.016 Edit this on Wikidata
Paralacs (π)158.7492 ±0.052 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Maint y blaned allheulol Gliese 581 c o'i chymharu gyda phlaned Daear (ch) a Neifion (dde).

Mae Gliese 581 c (sy'n cael ei ynganu fel: /ˈgliːzə/) yn blaned allheulol sy'n cylchu'r seren gorrach goch Gliese 581. Mae'n ymddangos ei bod mewn ardal breswyl yn y gofod o amgylch y seren, lle gallai tymheredd wyneb unrhyw blaned yno ganiatau presenoldeb dŵr hylifol. Mae'r blaned yn gymharol agos at y Ddaear, 20.5 blwyddyn goleuni (190 triliwn kilometr) i ffwrdd yng nghytser y Fantol. Gelwir y seren yn Gliese 581 yn ôl ei rhif yng Nghatalog Gliese o Sêr Cyfagos, a'r blaned ei hun yn Gliese 581 c am ei bod y drydedd agosaf i'r seren (ar raddfa a-b-c).

Darganfuwyd Gliese 581 c ar 4 Ebrill, 2007. Credir mai hi yw'r blaned allheulol gyntaf i'w darganfod gyda thymheredd sy'n agos i'r hyn a geir ar y Ddaear. Yn ogystal â hyn, hi yw'r lleiaf ei maint o'r planedau allheulol o amgylch seren 'prif gyfres' i gael ei darganfod hyd yn hyn. Mae dadl fawr ymlith seryddwyr a gwyddonwyr am y posiblrwydd fod bywyd a allai fod rhywbeth tebyg i'r hyn rydym ni'n ei adnabod ar y blaned "newydd" hon.

Mae gan y blaned y llysenw answyddogol Ymir.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]