Gilgit–Baltistan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Israniadau Gilgit–Baltistan.
K2 o Concordia.
Lleoliad Gilgit–Baltistan
Gilgit Baltistan Government Logo.svg

Un o diriogaethau gweinyddol Pacistan yw Gilgit–Baltistan (Wrdw: گلگت بلتستان, Balti: གིལྒིཏ་བལྟིསྟན). Ardaloedd y Gogledd (Wrdw: شمالی علاقہ جات, Shumālī Ilāqe Jāt) neu, yn swyddogol, Ardaloedd y Gogledd dan Weinyddiaeth Ffederal (Federally Administered Northern Areas: FANA) oedd ei henw tan 2009. Mae Gilgit–Baltistan yn ffurfio'r endid mwyaf gogleddol o fewn y rhan o gyn-deyrnas Jammu a Kashmir sydd dan reolaeth Pacistan yn hytrach nag India. Mae'n ffinio ar ddarn bychan o Affganistan i'r gogledd-orllewin, Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, talaith Bacistanaidd Jammu a Kashmir Azad (AJK) i'r de, a thalaith Indiaidd Jammu a Kashmir i'r de-ddwyrain. Ffurfiwyd yr Ardaloedd yn 1970 pan unwyd Asiantaeth Gilgit, Dosbarth Baltistan (Ladakh Wazarat), a Hunza a Nagar. Gyda chanolfan weinyddol yn nhref Gilgit, mae gan Gilgit–Baltistan arwynebedd o 72,971 km² (28,174 mi²) a phoblogaeth o tua 1,800,000.

Mae Gilgit–Baltistan yn rhan o ranbarth Kashmir sy'n diriogaeth ddadleuol yr hawlir rhannau ohoni gan India, Pacistan a Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mewn canlyniad mae'r tensiynau ar hyd y ffin yn fawr ac mae milwyr Pacistan ac India yn saethu at ei gilydd dros y 'LOC' (Line of Control, chwedl cyfryngau India) o bryd i'w gilydd.

Yng ngogledd a dwyrain Gilgit–Baltistan ceir y Karakoram a'r Himalaya Gorllewinol, sy'n cynnwys pump o'r mynyddoedd uchaf yn y byd, dros 8,000 medr, yn cynnwys K2 a Nanga Parbat, a thros hanner cant sydd dros 7000 medr. O drefi uchel Gilgit a Skardu mae sawl taith fynydda wedi cychwyn i'w dringo.

Rhed Traffordd y Karakoram, un o'r ffyrdd uchaf yn y byd, trwy Gilgit–Baltistan i gysylltu Pacistan a Tsieina.