Gaius Valerius Flaccus
Oddi ar Wicipedia
Bardd Rhufeinig o gyfnod Vespasian a Titus oedd Gaius Valerius Flaccus (bu farw tua 90 OC). Ychydig a wyddys amdano ond credir ei fod o bosibl yn frodor o Padua yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal (talaith Veneto heddiw). Ef yw awdur fersiwn Lladin o'r Argonautica, gwaith epig y llenor Groeg Apollonius Rhodius.