Fridtjof Nansen
Oddi ar Wicipedia
Fforiwr, gwyddonydd, diplomydd, a dyngarwr Norwyaidd oedd Fridtjof Wedel-Jarlsberg Nansen (10 Hydref 1861 – 13 Mai 1930).Ganed yn Store Fraen. Daeth i sylw'r byd gyntaf trwy groesi capan rhew yr Ynys Las.
Enillodd Wobr Heddwch Nobel ym 1922 am ei waith dros bobl a ddadleolwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra'n gweithio â Chynghrair y Cenhedloedd, dyluniodd basport Nansen, dogfen a roddwyd i ffoaduriaid heb ddinasyddiaeth.