Fred Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Paffiwr amatur Cymreig yw Fred Evans (ganwyd 4 Chwefror 1991). Fe'i ganwyd yn Llaneirwg, Caerdydd. Enillodd yr aur i Gymru ym mhencampwriaeth Paffio Amatur Ewrop yn Ankara yn 2011. Yr oedd cyn hynny wedi ennill yr aur ym mhencampwriaeth Cadet y Byd yn Hwngari yn 2007. Enillodd y fedal arian yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 yn y dosbarth pwysauwelter gan golli i Serik Sapiyev o Kazakhstan yn y rownd derfynol.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.