Foula
Oddi ar Wicipedia
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio ynysoedd Shetland, i'r gogledd o dir mawr yr Alban, yw Foula ("Ynys yr Adar"). Saif i'r gorllewin o'r brif ynys, Mainland, 20 milltir i'r gorllewon o Walls. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 31.
Y prif bentref yw Ham, lle ceir gwasanaeth fferi i Scalloway a Walls ar ynys Mainland. Mae gan yr ynys faes awyr bychan hefyd. Ers dechrau'r 20fed ganrif, mae'r ynys wedi bod yn eiddo i deulu Holbourn. Yma y gwnaed y ffilm The Edge of the World.