Florence Luscomb

Oddi ar Wicipedia
Florence Luscomb
Ganwyd1887 Edit this on Wikidata
Lowell, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw1985 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Sefydliad Technoleg Massachusetts Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, swffragét Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Florence Luscomb (6 Chwefror 188713 Hydref 1985) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel pensaer benywaidd o Massachusetts a swffragét. Roedd yn un o 10 o fenywod cyntaf a raddiodd yn y Massachusetts Institute of Technology.[1]:123-125

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganed Luscomb yn Lowell, Massachusetts, yn ferch i Otis a Hannah Skinner (neé Knox) Luscomb.[2] Roedd ei thad yn arlunydd aflwyddiannus a'i mam yn freuddwydiwr ymroddedig a gweithredwr dros hawliau menywod. Pan oedd Florence yn flwydd oed, gwahanodd ei rhieni a symudodd gyda'i mam i Boston, tra arhosodd ei brawd hŷn Otis Kerro Luscomb gyda'u tad.[2] Fel plentyn yn Boston, aeth gyda'i mam i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd dros hawliau merched, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio, ac ar un adeg clywodd Susan B. Anthony yn siarad, mewn cyfarfod. Daeth yn ymgyrchydd brwd, gan ddechrau drwy werthu papur newydd dros etholfraint, ar balmant y stryd.[3]:147–148[4][5]

Graddiodd mewn pensaernïaeth. Daeth Luscomb yn bartner-busnes iddi, mewn cwmni pensaernïol a oedd yn eiddo eiddo i'r merched, cyn i waith ddod yn brin oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Oherwydd diffyg gwaith yn y cyfnod hwn, ymrodd yn llwyr i waith mudiad etholfraint y merched, gan ddod yn arweinydd amlwg yn Massachusetts.

Florence Luscomb gyda'i chath Needles, tua 1893

Ymgyrchu[golygu | golygu cod]

Ymunodd gyda Chynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid a daeth yn ysgrifenyddes y Boston Equal Suffrage Association for Good Government cyn gweithio'n llawn amser i'r League of Women Voters a'r Women's International League for Peace and Freedom.

O 1911 ymlaen, ystyriodd ei hun yn ddinesydd y byd, gan deithio i genhedloedd ar draws Ewrop ac Asia ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd. Roedd ei safbwyntiau gwleidyddol wedi'u datblygu'n dda ac yn eithaf unigryw.

Ar ôl marwolaeth ei mam yn 1933, etifeddodd Luscomb ddigon o arian fel y gallai roi ei hamser yn llawn i weithredu gwleidyddol. Safodd am swyddi cyhoeddus bedair gwaith.[2] Y cyntaf oedd ei hymgais i fod yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Boston, yn 1922. Safodd mewn etholiad ar gyfer y Gyngres ym 1936 ac eto yn 1950, ac ar gyfer swydd llywodraethwr yn 1952, ond ymgyrchoedd protest oedd y rhain, yn bennaf.

Ysgrifennodd daflen yn gwrthwynebu Rhyfel Fietnam yn gynnar iawn, a byddai'n cynghori rhai o sefydlwyr y mudiad ffeministaidd Americanaidd yn ddiweddarach, gan eu hannog i gynnwys y tlodion a'r merched du.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Allaback, Sarah (2008). The First American Women Architects. University of Illinois. ISBN 0-252-03321-3.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Biography". Luscomb, Florence, 1887-1985. Papers of Florence Luscomb, 1856-1987: A Finding Aid. Radcliffe Institute, Harvard University. Awst 1989. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-03. Cyrchwyd 6 Chwefror 2017.
  3. Vetter, Herbert F. (2007). Notable American Unitarians 1936 to 1961. Lulu.com. ISBN 0-615-14784-4. Unknown parameter |subscription= ignored (help)
  4. Dyddiad geni: "Florence Luscomb". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Florence Luscomb". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.