Ffynnon Gaffo, Llangaffo

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Llangaffo

Mae ffynnon Gaffo wedi ei lleoli ym mhentref Llangaffo ar Ynys Môn. Enw arall ar y ffynnon oedd Crochan Gaffo. Mae’r ffynnon rhyw hanner milltir i’r gogledd o eglwys Llangaffo wrth ymyl y rheilffordd sydd ar ymyl Cors Malltraeth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cors Malltraeth

Roedd dŵr y ffynnon yn afieithus ac yn amlwg yn ffynnon gref. Yn ôl traddodiad roedd dŵr y ffynnon yn helpu plant rhag bod yn ddrwg. Roedd rhaid aberthu ceiliog ifanc i’r sant er mwyn sicrhau bod yr ymdriniaeth yn gweithio.[1] Roedd hyn yn awgrym o ddefod baganaid. Mae’r ffynnon wedi diflannu erbyn hyn. Mae rhai yn meddwl bod y ffynnon wedi cael ei difetha wrth iddyn nhw adeiladu’r rheilffordd o Gaer i Gaergybi. Mae’r rheilffordd yn croesi Cors Malltraeth.

Ffynnon Pechod[golygu | golygu cod]

Mae yna ffynnon arall sydd yn agos i Eglwys Llangaffo. Ym mhentref Llangaffo (yn ôl traddodiad) roedd y rhai oedd yn cael eu hystyried yn bechaduriaid yn cael eu chwipio o’r eglwys at groesffordd a elwid yn Chwipin. Y cyrchfan nesaf oedd Ffynnon Pechod lle golchid eu pechodau yn ei dŵr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)

Gaffo