Feeder
Oddi ar Wicipedia
| Grant Nicholas - prif leisydd Feeder | |
| Gwreiddiau | Casnewydd, Cymru |
|---|---|
| Cefndir | Grŵp / band |
| Math | Cerddoriaeth roc |
| Blynyddoedd | 1992 - presennol |
| Label | Big Teeth Music (2010-presennol) (DU) Echo (1994-2008) (DU) Pony Canyon (1997-2007) (Japan) Victor (2008-presennol) (Japan) Elektra (1998-1999) (UDA) Universal (2003-2004) (U.S.) Festival (1999-2004) (Awstralia) Liberation Music (2005-2007) (Awstralia) Roadrunner Records (1996-2004) (Ewrop) PIAS (2005-presennol) (Ewrop) |
| Aelodau presennol | Grant Nicholas Taka Hirose Karl Brazil |
| Cyn-aelodau | Mark Richardson Jon Lee |
Mae Feeder yn fand roc o Gasnewydd. Cafodd y band ei ffurfio yn 1992, ac ers hynny mae'r band wedi rhyddhau wyth o albymau stiwdio. Aelodau gwreiddiol y band oedd Grant Nicholas (llais, gitâr), Jon Lee (drymiau) a Taka Hirose (bâs), ond ar ôl marwolaeth Lee yn 2002, ymunodd Mark Richardson fel drymiwr. Eu cân fwyaf llwyddiannus yw 'Buck Rogers', oddi ar eu halbwm Echo Park (2001).