Fastidius

Oddi ar Wicipedia
Fastidius
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Esgob o Frython ac awdur yn yr iaith Ladin oedd Fastidius (fl. 411).

Mae'r hanesydd Lladin canoloesol Gennadius yn cyfeirio at Fastidius yn ei lyfr am Gristnogion cynnar enwog De Viris illustribus. Yn ôl yr hanesydd Fastidius oedd awdur gwaith ar y fuchedd Gristnogol, De Vita Christiana:

'Ysgrifennodd Fastidius, un o esgobion y Brythoniaid, i ŵr o'r enw Fatalis, lyfr ar "Y Fuchedd Gristnogol" ac un arall o "Gyngor i Weddwon", ill dau yn iach eu dysgeidiaeth ac yn deilwng i Dduw'.

Mae'r ail lyfr yn dangos dylanwad dysgeidiaeth Pelagius gan geryddu'r cyfoethogion a mynnu tegwch i'r tlawd, ond mae ei awduraeth yn ansicr.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986)
  • Hugh Williams, Christianity in Early Britain (Rhydychen, 1912)