Ewyllys fyw

Oddi ar Wicipedia

Cyfarwyddiadau a gaiff eu gadael gan unigolyn yw ewyllys fyw, sy'n penderfynu beth ddylai ddigwydd yn ôl ewyllys yr unigolyn, neu'n dynodi rhywun arall i wneud y penderfyniadau drostynt, os bydd yr unigolyn yn dod yn rhy wael i allu gwneud y penderfyniadau eu hunain.

Lloegr a Chymru[golygu | golygu cod]

Yn Lloegr a Chymru, gellir gwneud cyfarwyddyd ymlaen llaw neu apwyntio dirprwy o dan Ddeddf Medr Meddyliol 2005. Bydd y cyfarwyddyd ond yn gymwys mewn achos triniaeth datblygedig pan na fydd gan yr unigolyn y medr meddyliol bellach, a rhaid i'r staff meddygol sy'n ymdrin â'r claf ei ystyried yn ddilys ac yn gymwys.[1] Dangosodd ymchwil gan gwmni o gyfreithwyr yn 2010, fod y galw am ewyllys fyw wedi treblu yn ystod y ddwy flynedd gynt, gan ddangos fod pryder pobl ynglŷn â sut y byddent yn cael eu trin os fyddent yn wael, wedi cynyddu.[2] Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae gan bob oedolyn sydd â'r medr meddyliol, yr hawl i gytuno i dderbyn, neu i wrthod triniaeth feddygol. Er mwyn gwneud eu hewyllys yn glir o flaen llaw, gallant wneud ewyllys fyw, ond nid yw hyn yn gyfreithiol-rwym.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Carolyn Johnston (2007). The Mental Capacity Act 2005: a new framework for healthcare decision making, Cyfrol 33, Rhifyn 2, tud. 94–97. DOI:10.1136/jme.2006.016972URL
  2.  Demand for Living Wills trebles in the last two years. JLNS (10 Mehefin 2010).
  3.  How to make a living will : Directgov - Government, citizens and rights. Direct.gov.uk.
Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato