Evelyn Anna Lewes

Oddi ar Wicipedia
Evelyn Anna Lewes
Ganwyd1873 Edit this on Wikidata
Canada Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1961 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur Cymreig oedd Evelyn Anna Lewes (c. 1873 - 1961). Dywedir ei bod yn wraig o bersonoliaeth gref a addysg breifat.

Teulu a magwraeth[golygu | golygu cod]

Roedd Evelyn Anna Lewes yn ferch i'r uwchgapten Price Lewes, swyddog cynorthwyol gyda milisia Penfro, a'i wraig Florence (g. Kinnear, o Halifax, Nova Scotia); ganwyd Evelyn c. 1873 yng Nghanada, ond magwyd hi yn Poyston, yng nghymuned Rudbaxton, Sir Benfro. Oddeutu 1902 symudodd y teulu o Ganada i Dyglyn Aeron, ger Ciliau Aeron, Llambed, Ceredigion. Roedd Tyglyn Aeron yn un o hen gartrefi'r teulu, ar ochr ei thad, a oedd o linach uchelwrol, yn ynadon, siryfion ac aelodau seneddol. Oddeutu 1928 symudodd Evelyn Anna Lewes i Abersytwyth i fyw.[1][2][3][4]

Awdures[golygu | golygu cod]

Yn 1895 y dechreuodd gyhoeddi ei gwaith: cerddi yn gyntaf, yn Wales ac yna erthyglau a storïau, a hynny hyd at 1940. Ymhlith y cylchgronnau lle cyhoeddodd ei gwaith mae:

  • The Gentleman's Magazine (c. 1905)
  • The Field and the Queen (c. 1905-14)
  • The Bookman, Fishing Gazette, (1923-31)
  • T. P.'s and Cassell's Weekly, (1927)
  • Every woman's world (Toronto) a
  • Western Home monthly (Winnipeg)<ref>bywgraffiadur.cymru' adalwyd 6 Medi 2019.

Yng Nghymru, cyhoeddod yn y Western Mail, y Cambrian News ac ati.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw 4 Mawrth 1961 yn ysbyty Croesoswallt, a chladdwyd ei lludw ym mynwent Trefilan, Ceredigion.


[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: https://biography.wales/article/s2-LEWE-ANN-1873. dyddiad cyrchiad: 26 Awst 2019.
  2. Dyddiad geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  3. Dyddiad marw: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  4. Man geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  5. Galwedigaeth: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  • Mary Auronwy James (1997); gweler y Bywgraffiadur Cymreig