Euzko Gudarostea

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Euzko Gudarostea, neu mewn orgraff mwy diweddar Eusko Gudarostea (Basgeg, yn golygu "Byddin Gwlad y Basg") oedd yr enw a ddefnyddid gan luoedd arfog y Llywodraeth Fasgaidd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.

Ffurfiwyd y fyddin yn nechau mis Awst 1936, i ymladd yn erbyn byddinoedd Francisco Franco. Roedd y milwyr yn cynnwys cenedlaetholwyr Basgaiss, gyda rhai sosialwyr a chomiwnyddion. Roedd yn cynnwys llynges fechan, ond roedd diffyg awyrennau a magnelau yn anfantais fawr.

Bu'n ymladd yn erbyn lluoedd Franco yn ystod 1936 a 1937. Wedi i gefnogwyr Franco feddiannu talaith Biskaia, ildiodd y fyddin Fasgaidd i'r Eidalwyr oedd yn ymladd gyda Franco yn Santoña (Cantabria).

Gelwid aelodau'r Euzko Gudarostea yn gudaris ("milwyr" mewn Basgeg). Heddiw, mae aelodau ETA yn eu galw eu hunanin yn gudaris ar brydiau, ac yn eu hystyried eu hunain fel olynwyr yr Euzko Gudarostea.