Enseffalitis lethargica

Oddi ar Wicipedia
Enseffalitis lethargica
Dosbarthiad ac adnoddau allanol

Constantin von Economo, darganfyddwr y salwch
ICD-10 A85.8
ICD-9 049.8
DiseasesDB 32498

Ffurf afreolaidd o enseffalitis yw enseffalitis lethargica neu'r clefyd cysglyd[1] a elwir hefyd yn glefyd von Economo, clefyd Cruchet, neu glefyd Economo-Cruchet. Arsylwyd ar yr afiechyd yn gyntaf gan Jean René Cruchet yng ngaeaf 1915–6[2] a disgrifiodd y niwrolegydd Constantin von Economo yr afiechyd mewn llyfr ym 1917.[3] Mae enseffalitis lethargica yn ymosod ar yr ymennydd ac yn gadael rhai dioddefwyr mewn cyflwr sy'n debyg i gerflun: yn fud ac yn ddi-symud.[4] Gwelwyd epidemig o enseffalitis lethargica rhwng 1915 a 1926[5] pan ledodd ar draws y byd, a bu farw bron i filiwn (1,000,000) o bobl;[6] ni arsylwir ar unrhyw ddychweliad sylweddol o'r clefyd ers hynny, ond mae achosion unigol yn dal i ddigwydd.[7][8]

Mae'r tarddiant sydyn o enseffalitis lethargica wedi'i gysylltu â phandemig ffliw 1918,[9] ond mae ymchwil wedi methu i ddarganfod unrhyw dystiolaeth o feirws yn gysylltiedig ag enseffalitis lethargica.[6]

Pobl enwog oedd ag enseffalitis lethargica[golygu | golygu cod]

  • David Bell (1915–1959), arlunydd a bardd o Gymro a chafodd y clefyd pan oedd yn 14 mlwydd oed[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 461 [encephalitis lethargica].
  2. (Saesneg) Who Named It? — Economo's disease
  3. K. von Economo. Encepahlitis lethargica. Wiener klinische Wochenschrift, 10 Mai, 1917, 30: 581-585. Die Encephalitis lethargica. Leipzig a Vienna, Franz Deuticke, 1918.
  4. Dale RC, Church AJ, Surtees RA, et al. (2004). "Encephalitis lethargica syndrome: 20 new cases and evidence of basal ganglia autoimmunity". Brain 127 (Pt 1): 21–33. doi:10.1093/brain/awh008. PMID 14570817.
  5. Dorland's Medical Dictionary, Encephalitis lethargica
  6. 6.0 6.1 (Saesneg) Mystery of the forgotten plague. BBC (27 Gorffennaf, 2004). Adalwyd ar 5 Awst, 2009.
  7. Stryker Sue B.. "Encephalitis lethargica: the behavior residuals". Training School Bulletin 22 (1925): 152–7.
  8. Reid AH, McCall S, Henry JM, Taubenberger JK (2001). "Experimenting on the past: the enigma of von Economo's encephalitis lethargica". J. Neuropathol. Exp. Neurol. 60 (7): 663–70. PMID 11444794.
  9. Vilensky JA, Foley P, Gilman S (Awst 2007). "Children and encephalitis lethargica: a historical review". Pediatr. Neurol. 37 (2): 79–84. doi:10.1016/j.pediatrneurol.2007.04.012. PMID 17675021.
  10.  Bell, Ernest David. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 5 Awst, 2009.