Enceladws (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Enceladws

Enceladws yw'r wythfed o loerennau Sadwrn a wyddys:

Cylchdro: 238,000 km oddi wrth Sadwrn

Tryfesur: 498 km

Cynhwysedd: 7.30e19 kg

Ym mytholeg Roeg roedd Enceladws yn gawr a gafodd ei orchfygu a'i gladdu dan Fynydd Etna gan Athena. Un o'r "Gigantes" oedd Enceladws, a "sŵn daeargryn" ydy ystyr ei enw yn y Roeg.

Darganfuwyd y lloeren ym 1789 gan Herschel.

Mae gan Enceladws yr albedo uchaf o unrhyw gorff yn ein cysawd ni (>0.9). Mae ei harwyneb wedi ei orchuddio gan croyw glân.

Mae pum math o dirwedd wedi cael eu darganfod ar y lloeren. Yn ychwanegol i graterau ceir gwastadeddau llyfn, craciau llinellol eang a chribau. Mae rhan o'i harwyneb o leiaf yn ifanc, o bosib yn llai na 100 miliwn o flynyddoedd.

Mae hynny'n dangos bod Enceladws wedi bod yn actif yn ddiweddar (ac o bosib yn dal yn actif heddiw). Gallai rhyw fath o "folcaniaeth dŵr" fod ar waith. Mae Enceladws yn rhy fach i gael ei chynhesu gan ddadfeiliad defnydd ymbelydrol o'i mewn. Byddai'r gwres wedi hen ddiflannu erbyn hyn.

Mae Enceladws wedi ei chau mewn cyseiniant 1:2 gyda Dione. Gallai hynny greu mecaniaeth cynhesu, ond un sydd yn annigonol i doddi iâ dŵr. Oherwydd hynny gallai Enceladws fod wedi ei chyfansoddi gan rhyw ddefnydd gyda a chanddo bwynt toddi isel yn hytrach na dŵr pur.

Gallai Enceladws fod yn darddiad i ddefnydd modrwy E Sadwrn.