Dione (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dione

Dione yw'r ddeuddegfed o loerennau Sadwrn a wyddys:

Cylchdro: 377,400 km oddi wrth Sadwrn

Tryfesur: 1120 km

Cynhwysedd: 1.05e21 kg

Ym mytholeg Roeg roedd Dione yn fam i Aphrodite gan Zews.

Darganfuwyd y lloeren gan Cassini ym 1684.

Dione yw'r fwyaf dwys o loerennau Sadwrn (ac eithrio Titan: cynyddir dwysedd Titan gan wasgedd dwysterol). Mae Dione wedi ei chyfansoddi'n bennaf gan dŵr ond rhaid iddi hefyd gynnwys cryn dipyn o ddeunydd mwy dwys fel craig silicaidd.

Mae Dione yn debyg iawn i'r lloeren Rhea, er bod Rhea yn fwy. Mae gan ill dwy gyfansoddiadau tebyg, nodweddion albedo (nodweddion tywyll neu rai golau ar yr arwyneb sydd ddim o reidrwydd yn nodweddion daearyddol neu dopograffig) a thirweddau amrywiol. Mae'r ddwy loeren yn cylchdroi'n gydamserol (hynny yw: bydd yr un hemisffer yn wynebu Sadwrn trwy'r amser, fel mae'r un hemisffer o'r Lleuad bob amser yn wynebu'r Ddaear. Bydd yr un hemisffer bob amser yn wynebu cyfeiriad symudiad y lloeren -yr hemisffer arweiniol- tra bo'r hemisffer arall -yr hemisffer llusgol- bob amser yn wynebu'r tu ôl) ac mae ganddynt hemisfferau arweiniol sydd yn wahanol iawn i'w hemisfferau llusgol.

Ar hemisffer llusgol Dione ceir rhwydwaith o resi disglair ar gefndir tywyll a cheir ychydig iawn o graterau gweladwy.

Mae ffotograffau a dynnwyd gan y chwiliedydd Cassini yn 2004 yn dangos bod y rhesi'n rhwydwaith cymhleth o doriadau tectonig sydd yn iau na'r rhan fwyaf o'r craterau.

Ar hemisffer arweiniol Dione ceir craterau ym mhobman ac mae'r cefndir yn ddisglair.

Mae Helene yn bwynt Lagrange arweiniol i Ddione. Mae'r lloeren fach Polydeuces, a ddarganfuwyd gan y chwiliedydd Cassini yn 2004, yn bwynt Lagrange llusgol i Ddione.