Eid ul-Fitr

Oddi ar Wicipedia
Eid ul-Fitr
Enghraifft o'r canlynolgŵyl grefyddol, public holiday, Islamic term, Islamic holidays Edit this on Wikidata
MathEid Edit this on Wikidata
CrefyddIslam edit this on wikidata
Rhan oIslamic holidays Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganRamadan, Zakat al-Fitr Edit this on Wikidata
Olynwyd ganFasting six days of Shawwal month Edit this on Wikidata
Gwladwriaethledled y byd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Eid ul-Fitr (Arabeg: عيد الفطر), neu Aïd el-Fitr (yng Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl Islamaidd a ddethlir gan Fwslemiaid ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.

Arwyddocâd Eid[golygu | golygu cod]

Dethlir Eid ar ddyfodiad y lleuad newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis Shawaal, degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan fwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddoedd teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.

Ystyr Eid ul-Fitr yn llythrennol yw "Diwedd yr Ympryd" (eid "diwedd", ul- "yr", fitr "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r Mosg yn y bore i gymryd rhan yn Salat ul-Eid (gweddïau Eid) a gwrando pregethau. Mae pawb yn dymuno Eid Mubarak ("bendith Eid") i'w gilydd.

Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (zaqat neu zakat) i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir yn un o bum colofn y ffydd Islamaidd (Arkán al-Dín). Yr enw ar elusen Eid yw 'Zaqat ul-Eid.

Dathliadau[golygu | golygu cod]

Asida - danteithyn arbennig ar gyfer Eid ul-Fitr a fwyteir yng Ngogledd Affrica

Mae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.

Uchafbwynt Eid yw'r gwledda mawr sy'n parhau trwy'r nos. Mae teuluoedd ar wasgar yn ymgynnull ac mae pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gymryd rhan mewn gwleddoedd traddodiadol gyda phrydau arbennig a digonedd o ddiodydd, cacennau, pwdinau a melysion. Mae pawb yn rhoi anrhegion bach a melysion i blant, yn y cartref ac yn y stryd. Mae teuluoedd sydd â diogon o bres yn lladd dafad neu fuwch ar gyfer yr ŵyl, mewn coffadwriaeth o aberth Ibrahim (Abraham); rhoddir y cig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i'r tlawd a'r anghenus.

Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddoedd teuluol.

Enwau eraill am Eid[golygu | golygu cod]

Ym Moroco mae Aïd el-Fitr yn cael ei galw 'n Aïd es-Seghir, mewn cyferbyniaeth ag Eid ul-Kabir (neu Aïd el-Kebir), Gŵyl yr Aberth; y ddwy ŵyl hyn yw'r dyddiau gŵyl pwysicaf gan y Mwslemiaid.

Yn Nhwrci, mae'r ŵyl yn cael ei galw'n şeker bayramı, sef Gŵyl y Siwgr, oherwydd bod cymaint o ddanteithion melys yn cael eu bwyta gyda'r nos.

Yng Ngorllewin Affrica, mewn gwledydd fel Mali, Senegal a Niger, enwir yr ŵyl Korité.

Dyddiadau nesaf Eid ul-Fitr[golygu | golygu cod]

Gan fod union ddyddiad Eid yn amrywio rhywfaint o wlad i wlad a bod y calendr Islamaidd yn dilyn y lleuad, amcangyfrif yw'r dyddiadau isod.

  • (1442 - Calendr Islamaidd) 13 Mai 2021
  • 2 Mai 2022
  • 21 Ebrill 2023
  • 10 Ebrill 2024
  • 30 Mawrth 2025
  • 20 Mawrth 2026
  • 9 Mawrth 2027
  • 26 Chwefror 2028
  • 14 Chwefror 2029

Dyddiadau'r gorffennol[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]