Eger Hafren

Oddi ar Wicipedia

Ton lanw a welir ar ddyfroedd isaf Afon Hafren yn ne-orllewin Lloegr yw Eger Hafren. Mae'r eger yn cael ei ffurfio pan fydd y llanw'n codi ym Môr Hafren ac mae'r dŵr ymchwydd yn cael ei orfodi i mewn i sianel culhau Afon Hafren. Mae'r dyfroedd yn cael eu gwthio i fyny'r afon fel cyfres o donnau, cyn belled â Chaerloyw a thu hwnt.

Mae'r egrau'n digwydd ddwywaith y dydd ar tua 130 diwrnod o'r flwyddyn. Mae'r rhai mwyaf i'w cael tuag amseroedd y cyhydnosau ond gellir gweld rhai llai trwy gydol y flwyddyn. Mae tonnau hyd at ddau fetr o uchder yn cael eu hyrddio i fyny’r afon ar hyd at 16 cilomedr yr awr. Mae'r digwyddiadau mwyaf yn denu llawer o wylwyr a syrffwyr sy'n reidio'r tonnau.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: