Edward Jones (esgob)

Oddi ar Wicipedia
Edward Jones
GanwydGorffennaf 1641 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 1703 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llanelwy Edit this on Wikidata

Clerigwr Cymreig yn Eglwys Loegr oedd Edward Jones (Gorffennaf 164110 Mai 1703) a oedd yn Esgob Llanelwy o 1692 i 1703.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Llwyn Rhirid, Ffordun, yn ardal Maldwyn, yn fab i Richard a Sarah Jones. Mynychodd Ysgol Westminster. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt o 1661 i 1664, ac etholwyd ef yn gymrawd yno yn 1667.[1]

Iwerddon[golygu | golygu cod]

Symudodd i Kilkenny yn Iwerddon ac yno bu'n athro ar ysgol, a Jonathan Swift oedd un o'i ddisgyblion. Penodwyd yn ganon yn Ossory, yn ddeon Lismore yn 1678, ac yn Esgob Cloyne yn 1683.[1]

Esgob Llanelwy[golygu | golygu cod]

Yn 1692 cafodd Edward Jones ei drosglwyddo o Esgobaeth Cloyne i Esgobaeth Llanelwy, yn olynydd i William Lloyd. Esgob llwgr ydoedd a werthai swyddi eglwysig. Achwynodd ei glerigwyr arno wrth Archesgob Caergaint yn 1697, a fe'i gwysiwyd o flaen llys yr archesgob yn 1698. Llwyddodd ei gefnogwyr i ohirio'r prawf hyd 1700, ac yn 1701 fe'i cafwyd yn euog o simoniaeth a'i amddifadu o'i swydd am chwe mis.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Jones, Edward (1641 - 1703)", Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.