Kilkenny
Oddi ar Wicipedia
Tref yn Iwerddon yw Kilkenny (Gwyddeleg: Cill Chainnigh), sy'n dref sirol Swydd Kilkenny yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain yr ynys tua 38 milltir i'r gogledd o Waterford a thua 65 milltir i'r de-orllewin o'r brifddinas, Dulyn. Saif ar lan Afon Nore.
Dyma un o drefi hanesyddol mawr Iwerddon, gyda dwy gadeirlan, castell a nifer o adeiladau eraill. Ceir amgueddfa sy'n esbonio hanes Kilkenny yn Nhŷ Rothe. Yma hefyd mae bragdy E. Smithwick & Sons, hoff gwrw Iwerddon ar ôl Guinness.[1]
Adeiladau [golygu]
- Castell Kilkenny
- Eglwys Gadeiriol Sant Canice (Protestannaidd)
- Eglwys Gadeiriol y Santes Fair (Catholigaidd)
- Priordy Sant Ioan
- Yr Abaty Du
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Clive James, Iwerddon (Gwasg Carreg Gwalch, 1993), tud. 156.