Ealaghol

Oddi ar Wicipedia
Ealaghol
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.14892°N 6.10072°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Ealaghol (Saesneg: Elgol) yn bentref gwasgaredig ar lannau Loch Scavaig ar arfordir deheuol Ynys Skye. Saif y pentref 14 milltir o Broadford ar ben Penrhyn Strathaird. Cyrhaeddir y pentref ar ffordd trwy Fynyddoedd y Cuillins a Strath Suardal. Mae’n bosibl mynd ar gwch dros Loch Coruisk. Mae hefyd teithiau cerdded trwy’r mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir.[1] Roedd gan y pentref boblogaeth fwy cyn Clirio’r Ucheldiroedd. Erbyn hyn mae’r boblogaeth tua 150, er bod defnyddir llawer o’r tai ar gyfer gwyliau’n unig.[2] Mae siop coffi, bistro a thŷ bwyta.

Cei Ealaghol
Y pentref ac arfordir

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]