Donald Rumsfeld

Oddi ar Wicipedia
Donald Rumsfeld
Ffotograff swyddogol Donald Rumsfeld o Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau (2001).
Ganwyd9 Gorffennaf 1932 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 2021 Edit this on Wikidata
o myeloma cyfansawdd Edit this on Wikidata
Taos, New Mexico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol, diplomydd, awdur, person busnes, gwas sifil, gweinidog amddiffyn Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn, United States Permanent Representative to NATO, Counselor to the President Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
MamJeannette Husted Edit this on Wikidata
PriodJoyce Pierson Edit this on Wikidata
PerthnasauLew Sarett Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd seren Romania, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun, Croes Fawr Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Order of Brilliant Star, Order of the Golden Fleece, Gwobr Eryr y Sgowtiaid Nodedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://rumsfeld.com Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd Americanaidd oedd Donald Henry Rumsfeld (9 Gorffennaf 193229 Mehefin 2021) a fu'n Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau o 1975 i 1977 dan yr Arlywydd Gerald Ford ac eto o 2001 i 2006 dan yr Arlywydd George W. Bush. Gwasanaethodd hefyd yn aelod Gweriniaethol o Dŷ'r Cynrychiolwyr o 1963 i 1969, yn Llysgennad yr Unol Daleithiau i NATO o 1973 i 1974, ac yn Bennaeth Staff y Tŷ Gwyn o 1974 i 1975.

Ganed yn Evanston, Illinois, ger Chicago, yn fab i werthwr tai. Mynychodd yr uwchysgol yn Winnetka, Illinois, ac enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Princeton. Yno astudiodd wyddor gwleidyddiaeth a bu'n gapten ar dîm ymaflyd y brifysgol. Wedi iddo raddio ym 1954, ymunodd â Llynges yr Unol Daleithiau fel is-swyddog. Gwasanaethodd yn beilot jet ac yn hyfforddwr hedfan, ac enillodd bencampwriaeth ymaflyd llynges. Erbyn iddo gael ei ryddhau o'r llynges ym 1957, fe'i dyrchafwyd i reng lefftenant.[1]

Ymunodd Rumsfeld â staff David S. Dennison Jr., Cynrychiolydd y Blaid Weriniaethol o Ohio, ym 1957, a dwy flynedd yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn gynorthwywr gweinyddol i'r Cynrychiolydd Robert P. Griffin, Gweriniaethwr arall, o Michigan. Treuliodd Rumsfeld y cyfnod 1960–62 y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, yn gweithio yn frocer i'r cwmni buddsoddi A. G. Becker & Co. Etholwyd i Dŷ'r Cynrychiolwyr ym 1962 fel aelod dros 13eg etholaeth Illinois, a chafodd ei ailethol ym 1964, 1966, a 1968. Gweithiodd Rumsfeld i ymgyrch lwyddiannus Richard Nixon yn ystod etholiad arlywyddol 1968. Wedi i Nixon ennill yr etholiad, penodwyd Rumsfeld yn gyfarwyddwr ar y Swyddfa Gyfleoedd Economaidd o 1969 i 1970. Yn ystod arlywyddiaeth Nixon, gwasanaethodd hefyd yn Gynghorydd i'r Arlywydd (1970–71) ac yn gyfarwyddwr y Cyngor Costau Byw (1971–73). Aeth i Frwsel yn Chwefror 1973 i fod yn llysgennad i NATO.

Yn sgil sgandal Watergate ac ymddiswyddo Nixon, galwyd Rumsfeld yn ôl i Washington, D.C. ym Medi 1974 i arwain y broses drawsnewid ar gyfer yr Arlywydd Gerald Ford, a fe'i penodwyd yn Bennaeth Staff y Tŷ Gwyn. Yn Nhachwedd 1975 dewiswyd Rumsfeld i olynu James R. Schlesinger yn Ysgrifennydd Amddiffyn, ac efe yw'r dyn ieuangaf i wasanaethu yn y swydd honno. Gwobrwywyd iddo Fedal Rhyddid yr Arlywydd ym 1977. Yn sgil ethol Jimmy Carter, gadawodd Rumsfeld Washington unwaith eto a gweithiodd yn weithredwr busnes mewn cwmnïau fferyllol ac uwchdechnoleg.[1]

Dychwelodd Rumsfeld i swydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn dan yr Arlywydd George W. Bush yn 2001. Yn sgil ymosodiadau 11 Medi, 2001, a'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, bu Rumsfeld yn ffigur blaenllaw mewn materion rhyngwladol. Dadleuodd yn frwd dros gysylltiad rhwng Saddam Hussein ac al-Qaeda er mwyn cyfiawnhau goresgyn a meddiannu Irac gan luoedd yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriaid yn 2003. Cafodd Rumsfeld ei feio am nifer o fethiannau a throseddau'r ymgyrch filwrol, gan gynnwys sgandal carchar Abu Ghraib. Cafodd ei ddiswyddo gan Bush yn Nhachwedd 2006, a'i olynu yn y swydd gan Robert Gates.

Priododd Donald Rumsfeld â Joyce Pierson ym 1954, a chawsant ddwy ferch ac un mab. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Known and Unknown, yn 2011. Bu'n byw ar fferm wartheg yn nhalaith New Mexico yn niwedd ei oes, a bu farw yn Taos, New Mexico, o myeloma ymledol (canser y celloedd plasma) yn 88 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Donald Rumsfeld, Cold War warrior and defence chief during Iraq war who was indelibly associated with his ‘known unknowns’ – obituary", The Daily Telegraph (30 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 2 Gorffennaf 2021.
  2. (Saesneg) Robert D. McFadden, "Donald H. Rumsfeld, Defense Secretary During Iraq War, Is Dead at 88", The New York Times (30 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 2 Gorffennaf 2021.