Diyarbakır

Oddi ar Wicipedia

(Ailgyfeiriad oddi wrth Diyarbakir)
Neidio i: llywio, chwilio
Muriau hynafol Diyarbakır

Mae Diyarbakır yn ddinas hynafol ar lannau Afon Tigris yn ne-ddwyrain Twrci. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Gyrdiaid.

Mae gan y ddinas hanes hir. Dan yr enw Amida bu'n brifddinas talaith Rufeinig Sophene. Fe'i hamgylchynir gan furiau trwchus o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd sy'n ymestyn am 6km.

Fe'i cipiwyd gan y Tyrciaid yn 1515.

Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei chrefftwyr gwaith ffiligri aur ac arian medrus.


Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol