Diyarbakır
Oddi ar Wicipedia
Mae Diyarbakır yn ddinas hynafol ar lannau Afon Tigris yn ne-ddwyrain Twrci. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Gyrdiaid. Mae'n brifddinas talaith Diyarbakir.
Mae gan y ddinas hanes hir. Dan yr enw Amida bu'n brifddinas talaith Rufeinig Sophene. Fe'i hamgylchynir gan furiau trwchus o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd sy'n ymestyn am 6 km.
Fe'i cipiwyd gan y Tyrciaid yn 1515.
Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei chrefftwyr gwaith ffiligri aur ac arian medrus.