Disgfyd (byd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleoliad ffuglenol cyfres o nofelau ffuglen wyddonol Disgfyd Terry Pratchett yw'r Disgfyd (Saesneg: Discworld). Cyfansoddir y Disgfyd o ddisg sydd ychydig yn amgrwm gyda rhaeadr yn tasgu oddiar ymyl y ddisg. Caiff y ddisg ei gynnal gan bedwar eliffant ar gefn crwban anferth, sef Great A'Tuin (sy'n debyg i Chukwa neu Akupara o fytholeg Hindw), wrth iddo nofio dryw'r gofod yn araf deg. Caiff y Ddisg ei ddylanwadu'n gryf gan hud, ac er ei fod yn debyg i'r ddaear, mae'n cydlynnu at reolau naratif achosiaeth ei hun.

Archwiliodd Pratchett y syniad o fyd siap disg am y tro cyntaf yn y nofel Strata (1981).

Dolenni allanol[golygu]