Deux automnes à Paris

Oddi ar Wicipedia
Deux automnes à Paris
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
GwladCanada, Feneswela Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2020 Edit this on Wikidata
GenreDrama
Hyd102 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrGibelys Coronado Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrFrancisco Villarroel
Iaith wreiddiolSbaeneg, Ffrangeg, Guaraní Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffilm ddrama gan y cyfarwyddwr Gibelys Coronado yw Deux automnes à Paris a gyhoeddwyd yn 2020. Fe'i cynhyrchwyd yng Nghanada a Feneswela. Cafodd ei ffilmio yn Caracas. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Ffrangeg, Sbaeneg a Guaraní[1]. Mae’r ffilm yn seiliedig ar y nofel Dos otoños en París, stori ffoadur gwleidyddol gan yr awdur Francisco Villarroel[2].

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Mae'r ffilm yn adrodd stori garu María Teresa ac Antonio pan oedden nhw'n ifanc. Flynyddoedd lawer ar ôl y cyfarfod hwnnw, mae'n hydref eto ac mae Antonio yn dychwelyd i Baris wedi'i wahodd i roi cynhadledd ar hawliau dynol. Ar y ffordd o’r maes awyr i neuadd y digwyddiad, mae Antonio’n ail-greu’r stori garu yr oedd yn ei byw gyda’r hardd María Teresa, ffoadur gwleidyddol ifanc o Baragwâi a ffodd o’i gwlad i achub ei hun rhag gormes troseddol unbennaeth y Cadfridog gwaedlyd Alfredo Stroessner[3].

Cyfarwyddwr[golygu | golygu cod]

Astudiodd cyfarwyddwr y ffilm ym Mhrifysgol Ganolog Venezuela a bu'n gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol i'r gwneuthurwr ffilmiau Cesar Bolívar ac yn y Ganolfan Ffilm Genedlaethol.

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Enwebwyd y ffilm ar gyfer Gwobrau Platinwm Ffilm Ibero-Americanaidd, cafodd ei dewis ar gyfer Gŵyl Ffilm Hawliau Dynol Colombia a chymerodd ran mewn mwy na 50 o wyliau rhyngwlado.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ""Dos otoños en París" llega a las salas de cine de Venezuela". El Universal (yn Sbaeneg). 2021-02-09. Cyrchwyd 2022-09-25.
  2. Gutiérrez, Félix Eduardo (2019-10-23). ""Dos otoños en París" recrea la historia de activista desaparecida en la dictadura de Stroessner". El Ciudadano (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2022-09-25.
  3. "La Nación / Filme venezolano recrea el horror durante la dictadura en Paraguay". www.lanacion.com.py (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2022-09-25.