Denise Gyngell

Oddi ar Wicipedia
Denise Gyngell
Ganwyd30 Awst 1961 Edit this on Wikidata
y Porth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Italia Conti Academy of Theatre Arts
  • Barbara Speake Stage School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata
PriodPete Waterman Edit this on Wikidata

Actores, cantores a model yw Denise Gyngell (ganwyd 30 Awst 1961). Mae'n fwyaf enwog fel aelod o'r grŵp pop Tight Fit, yn yr 80au cynnar. Yn ddiweddarach fe briododd y cynhyrchydd recordiau, Pete Waterman.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Denise Gyngell yn y Porth, y Rhondda.[angen ffynhonnell] Aeth i Ysgol Lwyfan Barbara Speake ac Academi Italia Conti.

Fel plentyn, roedd yn ffrindiau gyda Jay Aston o Bucks Fizz.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd yn The Darwin Adventure (1972), gyda'i brodyr Paul a Michael, lle roedden nhw i gyd yn chwarae plant Darwin. Yn 1973 ymddangosodd ym mhennod o Play for Today o'r enw Song for Twilight a ysgrifennwyd gan Noël Coward, ac yn serennu Peter Sallis. Ynghyd â'i brawd Paul, ymddangos hefyd yn The Zoo Robbery.

Fel rhan o'r grŵp pop Tight Fit cafodd sengl Rhif 1 gyda'i fersiwn nhw o The Lion Sleeps Tonight a hit 5 uchaf gyda "Fantasy Island" yn 1982. Ail-ffurfiodd y band yn 2008 gan wneud gigs bychan o gwmpas gwledydd Prydain.

Roedd Denise yn un o 'Hill's Angels" ar The Benny Hill Show yn ystod yr 1980au cynnar. Ymddangosodd hefyd mewn pennod o ddrama gomedi Ronnie Corbett Sorry yn 1987. Gwnaeth ymddangosiadau hefyd gyda Kenny Everett a Morecambe a Wise.

Mae Denise hefyd wedi perfformio mewnn nifer o sioeau llwyfan, gan gynnwys Aladdin mewn pantomeim.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Gyngell y cynhyrchydd Pete Waterman yn 1991; ac ysgarodd y cwpl yn 1999. Mae ganddynt ddau o blant.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pete Waterman - He should be so lucky". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mawrth 2010. Cyrchwyd 1 Ebrill 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]