Bucks Fizz (band)
Oddi ar Wicipedia
Roedd Bucks Fizz yn grŵp pop Seisnig a ffurfiwyd ym 1981 er mwyn cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision y flwyddyn honno. Enillodd y grŵp y gystadleuaeth gyda'u cân Making Your Mind Up, sef eu cân fwyaf llwyddiannus erioed. Aelodau gwreiddiol y grŵp oedd Bobby G, Cheryl Baker, Mike Nolan a Jay Aston. Aeth y band ymlaen i gael gyrfa lewyrchus yn fyd-eang, er mai yn y Deyrnas Unedig cawsant eu prif lwyddiant, gan gyrraedd brig y siart ar dair achlysur. Gwerthodd y band dros 15 miliwn o recordiau yn fyd-eang.
[golygu] Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol
- The Original Bucks Fizz - Gwefan swyddogol
- Bucks Fizz Y Blynyddoedd Cynnar
- Shelley Preston
