Defnyddiwr:Rhyswynne/Amgueddfa Atgofion2

Oddi ar Wicipedia

Dyma dudalen WiciBrosiect Amgueddfa Atgofion.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn rhedeg prosiect treftadaeth 18 mis o'r enw Amgueddfa Atgofion yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Yr Amgueddfa Atgofion (Crynodeb)[golygu | golygu cod]

  • £59,800.00 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
  • Datblygwyd y cynllun ar y cyd ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda chefnogaeth hefyd gan yr Asiantaeth Datblygu Gwledig lleol Cadwyn Clwyd
  • 18 mis o weithgareddau’n ymwneud â hanes ffermio a bywyd cefn gwlad yn Sir Ddinbych
  • Cyfle i blant a phobl o bob oed gydweithio ar y cynllun
  • Pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ar sut i gasglu atgofion a chadw lluniau ar gyfrifiaduron, gan gydweithio â ffermwyr lleol
  • Cadw cofnod manwl o’r hen ffordd o fyw a defnyddio atgofion personol a hen luniau i greu archif gwych o’r 1940au hyd at heddiw
  • Arddangosfa symudol yn cael ei datblygu ynghyd â phecyn ‘amgueddfa fechan’ hyblyg
  • Lluniau a chyfweliadau newydd yn cael eu hychwanegu i’r arddangosfa ddigidol wrth i’r cynllun fynd rhagddo
  • Lluniau a’r atgofion yn cael eu casglu mewn cyfres o ddigwyddiadau casglu atgofion (Gweler Sesiwn Hel Atgofion islaw) megis:
    • Ocsiwn Ffermwyr, Rhuthun
    • Amgueddfa Llangollen
    • Oriel Corwen
    • Stondin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Sioe Dinbych a Fflint, ac wrth gwrs:
    • Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013.

Y Gymraeg yn rhan annatod o’r cynllun[golygu | golygu cod]

  • Pobl oedrannus cefn gwlad ydi’r unig rai ar ôl sy’n cofio dulliau ffermio a ffordd o fyw eu hardaloedd yn yr oes a fu
  • Rhain hefyd ydi’r genhedlaeth olaf sy’n cofio hen draddodiad llafar eu bro yn ei holl gyfoeth lliwgar
  • Mae gan lawer o ardaloedd eiriau hollol unigryw oedd yn ymwneud â ffermio a’r diwylliant oedd yn gysylltiedig â hynny
  • Mae’n bwysig iawn casglu a chadw atgofion a lluniau am ffordd o fyw ffermwyr a thafodiaith yr ardaloedd tra mae’n dal yn bosib
  • Newidiadau i ffordd o fyw ffermwyr a thafodieithoedd dros y blynyddoedd yn golygu na fydd y wybodaeth a’r traddodiadau hyn yn cael eu trosglwyddo i bobl fengach yr ardal fel a wnaed yn y gorffennol
  • Gyda chymorth Amgueddfa Werin Cymru bydd yr arddangosfeydd hyn, yn enwedig yr arddangosfeydd llafar, yn adnoddau unigryw gwych i’r ardal hon ac i Gymru gyfan.

Sesiwn Hel Atgofion[golygu | golygu cod]

Bydd cyfres o ddigwyddiadau Hel Atgofion yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn hon gan ddechrau yng Nghorwen diwedd mis Mawrth 2013. Bydd modd sganio hen luniau'n ystod y sesiynau yma a thynnu ffotograffau o hen declynnau a pheiriannau amaethyddol. Carem ddefnyddio'r lluniau a sganiwyd yn ystod y digwyddiadau ar Wicipedia gan sicrhau hefyd bod gyda ni ganiatâd i’w cynnwys.

Dyddiadau Sesiynnau Hel Atgofion[golygu | golygu cod]

  • dd/mm/bbbb Lleoliad, Corwen amser

Amcanion WiciBrosiect Amgueddfa Atgofion[golygu | golygu cod]

Mae rhai o olygwyr y Wicipedia Cymraeg wedi bod mewn cysylltiad gyda swyddogion y Fenter ac rydym wedi cytuno i gydweithio. Fel cyfranwyr Wicipedia, rydym yn awyddus bod unrhyw ddelweddau neu ffeilau sain sy'n cael eu casglu/creu a'r gael ar drwydded agored. Dyma sail y WiciBrosiect, ac rydym am geisio cydweithio drwy wneud y canlynol:

  • Darparu ystod llawn o erthyglau cynhwysfawr yn ymwneud â phynciau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn Sir Ddinbych, drwy greu, ehangu a chynnal erthyglau am ddigwyddiadau, pobl, lleoliadau a gwrthrychau perthnasol.
  • Elfen go fawr o Amgueddfa Atgofion yw casglu hen luniau a'r gobaith ydy y bydd modd uwchlwytho'r delweddau hyn i'r Comin. Gallwn gynorthwyo drwy gynnig cymorth a/neu gyngor wrth uwchlwytho a hefyd drwy sicrhau bod y lluniau yn cynnwys metadata cywir ac wedi eu categoreidido'n addas.
  • O gael corff go dda o ddelweddau, gallwn wedyn gynnwys y rhain o fewn erthyglau perthnasol ar y Wicipedia Cymraeg, a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth ein darllenwyr o'r Amgueddfa Atgofion.
  • Mynychu sesiynau Hel Atgofion (isod)
  • Gweler rhesr Tasgau islaw.

Cwmpas y prosiect[golygu | golygu cod]

Erthyglau o fewn Categori:Sir Ddinbych, Categori:Amaeth ac Categori:Amaeth yng Nghymru ar y Wicipedia Cymraeg a delweddau o fewn y Category:Agriculture in Denbighshire ar y Comin.

Canllawiau[golygu | golygu cod]

Ar gyfer gweld beth yw'r ymarfer da ar gyfer creu a golygu erthyglau, ewch at Wicipedia:Arddull.

Tasgau[golygu | golygu cod]

Dyma restr o dasgau i'w cwblhau. Gellir trafod pob tasg mewn manylder ar y dudalen sgwrs.

Syniadau pellach am erthyglau[golygu | golygu cod]

Delweddau a ffeiliau sain[golygu | golygu cod]

Esiamplau[golygu | golygu cod]

Dyma rai esiamplau o ddelweddau sydd eisoes wedi eu hychwanegu:

Manylion cyswllt Amgueddfa Atgofion[golygu | golygu cod]

  • Enw'r Swyddog:
  • Rhif ffôn:
  • e-bost
  • Twitter

Aelodau WiciBrosiect Amgueddfa Atgofion[golygu | golygu cod]

Dyma restr o gyfranwyr ar y prosiect. Mae croeso i chi ychwanegu eich henw at y rhestr.
(Mae'r rhestr yma ar gyfer cyfranu at y WiciBroseict. Os ydych am wybod mwy am brosiect Amgueddfa Atgofion ei hun, cysylltwch gyda'r swyddog ar y manylion uchod.)

  1. --Ben Bore (sgwrs) 12:10, 22 Tachwedd 2012 (UTC) Am geisio tynnu lluniau o hen offer ar ffermydd y teulu yn yr ardal.
  2. -- Llywelyn2000 (sgwrs) 11:59, 26 Mawrth 2013 (UTC)