Defnyddiwr:RhysGriff/Wayne Pivac

Oddi ar Wicipedia

Hyfforddwr rygbi'r undeb proffesiynol o Seland Newydd yw Wayne Pivac, (ganed yn 1962) yn ogystal â chyn swyddog heddlu. Dechreuodd ei yrfa fel cwnstabl yng ngorsaf heddlu Takapuna ar arfordir gogleddol Auckland.  Dechreuodd chwarae ei rygbi yng Ngholeg Rosmini ac yna yn Ysgol Uwchradd Westlake i fechgyn, ond roedd Pivac hefyd yn ddigon da i chwarae i dîm rhanbarthol North Harbour, tra'n parhau i wasanaethu fel heddwas.[1]

Gyrfa fel Hyfforddwr Rygbi[golygu | golygu cod]

Symudodd Pivac o chwarae rygbi i hyfforddi,  yn gyntaf ar lefel clwb yn Takapuna, yna am rai tymhorau gydag ail dîm North Harbour, ac yna gyda Northland, y rhanbarth gynrychiolodd ei dad.[2] Yn 1997, llwyddodd Pivac i arwain tîm Northland i frig ail adran y Bencampwriaeth Rhanbarthol Cenedlaethol, ac ennill dyrchafiad i'r adran gyntaf y flwyddyn ganlynol.  Yn dilyn hynny, Pivac oedd wrth y llyw gyda thîm Auckland yn 2002 a 2003 wrth iddyn nhw ennill y Bencampwriaeth ddwy flynedd o'r bron, yn ogystal â'r Ranfurly Shield.[3] Cafodd ei enwi fel Hyfforddwr Rygbi'r Undeb y flwyddyn yn Seland Newydd yn 2003, [4] ac yna ei gyflogi i olynu Mac McCallion fel hyfforddwr tîm rhyngwladol Fiji, ym mis Chwefror 2004. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf gyda Fiji, llwyddodd y tîm i ennill cystadleuaeth y Pacific Tri-Nations, a  chynorthwyodd hefyd i hyfforddi y tîm saith bob ochr i ennill Cwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd 2005.[5]

Yn Ionawr 2007, gadawodd Pivac ei swydd fel prif hyfforddwr rygbi Fiji oherwydd ymrwymiadau teuluol.[6] Wedi dychwelyd i Seland Newydd, apwyntiwyd ef yn hyfforddwr i dîm North Harbour.[7] Profodd hi'n dymor siomedig i'r rhanbarth, ac felly camodd Pivac i'r ochr yn 2008, gyda Craig Dowd a Jeff Wilson yn ei olynu,[8] dim ond iddyn nhw gael eu disodli y flwyddyn wedyn yn dilyn tymor siomedig arall. Yn 2011, cymerodd Pivac le Mark Anscombe fel hyfforddwr Auckland yn y Cwpan ITM.[9]

Yn 2014, cyhoeddwyd fod Pivac wedi cael ei apwyntio fel Is Hyfforddwr y Scarlets, sy'n chwarae eu rygbi yn stadiwm Parc y ScarletsLlanelli,Cymru.[10] Wedi cael ei gyflogi'n wreiddiol i arwain y blaenwyr, dyrchafwyd Pivac i swydd y Prif Hyfforddwr o achos ymadawiad Simon Easterby i dîm cenedlaetholIwerddon.[11] Ym mis Mai, 2017, llywiodd Pivac y Scarlets i gipio eu cwpan cyntaf mewn 13 mlynedd, a theitl cyngrhair PRO12 Guiness, gan guro Munster o 46-22 yn Stadiwm Aviva, Dulyn.[12]

Ar y 9fed o Orffennaf 2018, cyhoeddwyd  mai Pivac fyddai'n olynu Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru. Mae disgwyl iddo barhau fel hyfforddwr y Scarlets am dymor arall cyn cael ei gyflogi ganUndeb Rygbi Cymru ar gytundeb pedair blynedd. Disgwylir i'r cytundeb ddechrau yng Ngorffennaf 2019 ond fe fydd yn cymeryd yr awenau yn dilyn Cwpan Rygbi'r Byd sy'n cael ei gynnal yn Hydref 2019.[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pivac has All Black aims as overseas job beckons". NZ Herald. 1 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  2. "Pivac has All Black aims as overseas job beckons". NZ Herald. 1 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  3. "Pivac to coach Fiji at World Cup". BBC. 26 Awst 2006. Cyrchwyd 19 Ionawr 2007.
  4. "Head Coach". Scarlets. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  5. "History". Fiji Rugby. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  6. "Pivac resigns as Fiji rugby coach". CNN. 19 Ionawr 2007. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  7. "North Harbour sign Pivac as coach". NZ Herald. 24 Ionawr 2007. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  8. "Jeff Wilson to coach North Harbour". Otago Daily Times. 28 Hydref 2008. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2011.
  9. "Pivac Named New Auckland Coach". Rugby News. 16 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  10. "Newsroom | Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2014.
  11. "Scarlets confirm Wayne Pivac appointment as head coach". BBC. 12 Awst 2014. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  12. "Scarlets boss Wayne Pivac insists Wales are capable of copying his side's expansive attacking blueprint". Wales Online. 27 Mai 2017. Cyrchwyd 14 Medi 2017.
  13. "Wayne Pivac: Scarlets chief to succeed Warren Gatland as Wales coach". BBC Sport. 9 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.