Defnyddiwr:AlwynapHuw/Wyn Williams
Mae Syr Wyn Lewis Williams, FLSW (ganwyd 31 Mawrth 1951 ) yn farnwr Cymreig a wasanaethodd fel Llywydd y Tribiwnlysoedd Cymreig hyd 2023 . Roedd wedi bod yn farnwr yr Uchel Lys o 2007 hyd ei ymddeoliad ar 10 Chwefror 2017. [1]
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]
Ganed Wyn Lewis Williams yn Ferndale yn y Rhondda yn blentyn i Ronald a Nellie Williams. Addysgwyd ef yn ysgol gramadeg sirol y Rhondda, Coleg Corpus Christi, Rhydychen, ac Ysgol y Gyfraith Ybytai'r Frawdlys yn Llundain . [2]
Gyrfa gyfreithiol[golygu | golygu cod]
Galwyd Williams i'r bar yn y Deml Fewnol ym 1974 a'i ddyrchafu'n feinciwr yn 2007 . Bu’n ymarfer y gyfraith yng Nghaerdydd o 1974 i 1988 ac yn Llundain o 1988 i 2004. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1992, a gwasanaethodd fel cofnodwr Llys y Goron hyd iddo gael ei benodi’n farnwr Siawnsri arbenigol i Gymru yn 2004. Ar 11 Ionawr 2007, penodwyd Williams yn farnwr Uchel Lys, [3] gan cael ei urddo'n farchog yn ôl y drefn arferol, a'i benodi i Adran Mainc y Frenhines . Gwasanaethodd fel barnwr llywyddol ar gyfer Cylchdaith Cymru ac fel Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru. [4]
Fe'i penodwyd yn llywydd tribiwnlysoedd Cymru ym mis Rhagfyr 2017. [5]
Ym mis Chwefror 2022 dechreuodd cadeirio yr Ymchwiliad Statudol i sgandal Swyddfa'r Post Prydeinig, y rhagwelir y bydd yn parhau hyd at haf 2024. [6] [7]
Gweithgareddau eraill[golygu | golygu cod]
Mae'n weithgar mewn sawl sefydliad, yn llywydd Côr Meibion Pendyrus, ac mae ganddo gysylltiad agos â Chlwb Rygbi Tylorstown, y clwb rygbi undeb y bu'n chwarae iddo pan yn ifanc. Ymhelaethwyd ar ei gysylltiad â rygbi yn 2012 pan gafodd ei benodi’n gadeirydd annibynnol di-dâl y Bwrdd Gêm Rhanbarthol Proffesiynol, sefydliad a sefydlwyd gan Undeb Rygbi Cymru i ailstrwythuro’r gamp yng Nghymru. [8]
Mae'n Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW). [9]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "High Court: Retirement of The Honourable Sir Wyn Lewis Williams". www.Judiciary.gov.uk. Cyrchwyd 21 December 2017.
- ↑ Humphries, Bram (28 February 2008). "President sets bench mark". Cyrchwyd 6 December 2012.
- ↑
You must specify issue=, startpage=, and date= when using {{London Gazette}}. Available parameters:
{{London Gazette | issue = | date = | page = | pages = | supp = | display-supp = | nolink = | city = | title = | quote = | mode = | ref = | postscript = }}
- ↑ "Appointment – Mr Justice Wyn Williams" (Press release). 13 September 2012. http://www.justice.gov.uk/news/judicial-appointments/judicial-130912-107. Adalwyd 6 December 2012.
- ↑ "Welsh tribunals get their own senior judge". LawGazette.co.uk. Cyrchwyd 21 December 2017.
- ↑ "Post Office scandal ruined lives, inquiry hears". BBC News. 14 February 2022.
- ↑ "Public Hearings Timeline". Post Office Horizon IT Inquiry. Cyrchwyd 2 January 2024.
- ↑ "Judge to chair new rugby board to run Welsh rugby". BBC Sport. 5 December 2012. Cyrchwyd 9 December 2012.
- ↑ "Williams, Hon. Sir Wyn (Lewis), (born 31 March 1951), a Judge of the High Court of Justice, Queen's Bench Division, 2007–17; President, Welsh Tribunals, since 2017; a Judge of the Courts of Appeal of Guernsey and Jersey, since 2018". Who's Who 2021 (yn Saesneg). Oxford University Press. 1 December 2020. Cyrchwyd 2 April 2021.
[[Categori:Cymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig Cymru]] [[Categori:Cyn-fyfyrwyr Coleg Corpus Christi, Rhydychen]] [[Categori:Genedigaethau 1951]]