Ysbytai'r Frawdlys

Oddi ar Wicipedia
Arfbais unedig Ybytai'r Frawdlys

Ysbytai'r Frawdlys (Saesneg Inns of Court) yn Llundain yw'r cymdeithasau proffesiynol ar gyfer bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae'n rhaid i bob bargyfreithwyr perthyn i un o'r Ysbytai. Maent yn gyfrifol am oruchwylio a disgyblu eu haelodau. Mae'r Ysbytai hefyd yn darparu llyfrgelloedd, cyfleusterau bwyta a llety i aelodau'r proffesiwn, mae eglwys neu gapel ynghlwm wrth yr ysbytai. Mae bob ysbyty yn ganolfan hunangynhaliol lle mae bargyfreithwyr yn draddodiadol yn hyfforddi ac yn ymarfer, er bod twf yn y proffesiwn, ynghyd ag awydd i ymarfer o lety mwy modern wedi achosi i lawer o siambrau bargyfreithwyr symud y tu allan i ganolfannau traddodiadol yr ysbytai ers diwedd yr 20g.[1]

Dros y canrifoedd bu nifer fawr o adeiladau mawr a chyffiniau lle fu bargyfreithwyr yn ymgasglu i ymarfer eu proffesiwn ac i gynnig hyfforddiant. Bellach mae nifer yr Ysbytai wedi eu cyfyngu i'r pedwar presennol:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Bar Council Inns of Court [1] adalwyd 3 Rhagfyr 2015