Debbie Harry
Oddi ar Wicipedia
Cantores-cyfansoddwraig Americanaidd yw Deborah Ann "Debbie" Harry (ganed 1 Gorffennaf, 1945). Mae'n fwyaf adnabyddus fel prif leisydd y band pync roc Blondie. Mae hi hefyd wedi bod yn llwyddiannus fel artist unigol, ac yng nghanol y 1990au perfformiodd a recordiodd fel rhan o The Jazz Passengers. Mae hi hefyd wedi actio mewn dros 30 o ffilmiau a nifer o raglenni teledu.