David Brynmor Jones
Oddi ar Wicipedia
Cyfreithiwr a gwleidydd Cymreig oedd Syr David Brynmor Jones (1851 - 6 Awst 1921).
Ganwyd yn Abertawe, yn fab y Parch. Thomas Jones. Brawd y gwleidydd Leif Jones ac yr ysgolhaig John Viriamu Jones oedd ef. Addysgwyd yn Ysgol Coleg y Brifysgol a Choleg y Brifysgol, Llundain, a daeth yn gyfreithiwr ym 1876. Ym 1886 daeth yn farnwr mewn llys sirol.
Aelod seneddol Rhyddfrydwr ar gyfer Stroud oedd e rhwng 1892 a 1895, ac wedyn ar gyfer Ardale Abertawe o 1895 i 1914. Urddwyd yn farchog ym 1906. Roedd yn aelod Comisiwn Tir Cymru 1893 a Chomisiwn Eglwys Cymru 1907. Daeth yn Gyfrin Gynghorwr ym 1912.