Daniel Day-Lewis
Oddi ar Wicipedia
Mae Daniel Michael Blake Day-Lewis (ganed 29 Ebrill 1957) yn actor Seisnig a ddaeth yn ddinesydd Gwyddelig ym 1993. Caiff ei ystyried yn un o actorion mwyaf dethol y diwydiant, gan serennu mewn pedair ffilm yn unig ers 1997, gyda chymaint a phum mlynedd rhwng pob rôl. Mae ef yn actor dull, sy'n enwog am ei ymroddiad llwyr ac am ymchwilio'n fanwl i mewn i bob cymeriad mae'n chwarae. Yn aml, bydd yn aros mewn cymeriad trwy gydol y cyfnod o ffilmio.
Enillodd Wobr yr Academi a BAFTA am yr Actor Gorau am bortreu Christy Brown yn My Left Foot (1989) a Daniel Plainview yn There Will Be Blood (2007). Enillodd Wobr BAFTA arall a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Ffilm am ei rôl fel Bill "Y Bwtshiwr" Cutting yn Gangs of New York.